Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/175

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a gyrchent i'w wrandaw, ac y byddai raid iddo yn fynych iawn, braidd bob amser mewn lleoedd gwledig yn yr haf, bregethu yn y ffenestr, ar brydnawn y Sabbath, a thyrfa agos mor fawr allan ag a fyddai yn gallu myned i mewn i'r capel. Yr ydym yn cofio yn dda gwrandaw arno, ar foreu Sabbath, Ebrill 9, 1826, yn pregethu yn Nhalsarn. Yr oedd y capel, er ei fod yn ei gartref ei hunan, yn orlawn, ac amryw yn methu ymwthio i mewn; a'r tyndra oddifewn agos yn anoddefadwy. Yr oeddem, ar y pryd, ar ymweliad â'n tad, yr hwn oedd yn gweithio yn mhalas y Glynllifon, Llandwrog. Ar ddamwain, fe ddaeth y newydd fod John Jones i bregethu yn Nhalsarn, y boreu hwnw, ac yr oedd yr hyfrydwch o'i weled a'i glywed, yn enwedig yn ei gartref ei hunan, yn llawn ddigon o gymhelliad i'n tynu yno. Ei destyn y pryd hyny oedd, Esaiah v. 4. "Caled" ydyw y gair a ddefnyddir ganddo ef ei hunan am yr oedfa hono: ac yr ydym braidd yn meddwl ei bod mewn gwirionedd felly arno y tro hwnw, er fod y bregeth yn un a wnaeth weithredoedd nerthol iawn, ar ol hyny, mewn llawer parth o Ddeheudir a Gogledd Cymru.

Yn ol y penderfyniad a wnaed ganddo, ni bu, hyd y gallwn ni gael un hanes, allan o'i Sir ei hunan, ar ol y daith trwy Siroedd Dinbych a Fflint, yn mis Medi, 1825, hyd fis Mehefin, 1826, pryd yr aeth i Gymdeithasfa Llanerchymedd, yr hon a gynnhelid y Mercher a'r Iau, yr 21ain a'r 22ain o'r mis hwnw. Yr ydym yn cofio yn dda fod dysgwyliad mwy na chyffredin yn Sir Fôn, am y cyfarfod hwnw yn Llanerchymedd, oblegyd fod Mr. Thomas Richard i ddyfod yno, yr hwn oedd y pryd hyny yn ŵr dieithr iawn yn yr Ynys. Ac hefyd fe ddywedid fod Mr. Michael Roberts yn dyfod yno, yr hwn oedd ddieithrach fyth. Aeth nifer mawr o honom o Gaergybi tua Llanerchymedd. Yr oedd yn haf poeth a sych iawn. Erbyn cyrhaedd yno, ni a glywem nad oedd Mr. Michael Roberts wedi dyfod ond fod Mr. Thomas Richard; a bod John Jones, Llanllyfni, yno. Yn y Gymanfa hono, y prydnawn cyntaf, pregethodd Mr. John Lewis, o Lundain, ar 1 Ioan iv. 10; a Mr. Thomas Richard, ar Psalm xxxii. 10. Drannoeth, am chwech yn y boreu, pregethodd Mr. William Williams, Aberteifi, ar Matt. ix. 12. Am ddeg, pregethodd Mr. John Hughes, o Wrexham, ar Act. xxvi. 24, 25; a Mr. John Roberts, o Langwm, ar Eph. ii. 11, 12, 13. Am ddau ar y gloch, pregethodd Mr. John Hughes, Sir Drefaldwyn, ar Zech. xii. 10; a Mr. Thomas Richard, ar