Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/176

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Psalm xxxii. 11. Am chwech yn yr hwyr, pregethodd Mr. John Jones, ar Ioan xii. 24; a Mr. Richard Jones, Trawsfynydd, ar 2 Tim. iii. 15. Yr oedd y dorf yn lliosog iawn; ond nid oedd neb wedi cael rhyw hwyl neillduol i bregethu, oddieithr Mr. William Williams, Aberteifi, yn yr oedfa y boreu cyntaf, a Mr. Hughes, o Wrexham, ychydig yn yr oedfa ddeg, hyd y cyfarfod yr hwyr. Yr ydym yn cofio yn dda fod y lluoedd oeddent wedi dyfod yno o Gaergybi, wedi penderfynu myned adref ar ol yr oedfa ddau ar y gloch, hyd nes y cyhoeddwyd y byddai John Jones, Llanllyfni, i bregethu yno y noswaith hono. Newidiodd hyny eu penderfyniad hwy yn gystal a channoedd, os nad rhai miloedd ereill, oeddent yn y Gymanfa. Nid llawer iawn llai, dybygid, oedd y gynnulleidfa yn yr hwyr nag ydoedd am ddeg a dau. A chafodd John Jones dro annghyffredin iawn. "Gulaw" ydyw ei air ef ei hunan am y bregeth yr hyn, fel y dywedasom eisoes, sydd yn arwyddo fod yno waeddi a gorfoledd mawr. Ac yr oedd yno ugeiniau, os nad cannoedd, wedi cyd-dori allan dan y teimladau dwysaf i waeddi, nes yr oedd llais y pregethwr wedi ei golli yn llwyr, ac felly y terfynodd. Yr ydym yn cofio yn dda ein bod yn teimlo yn annghyffredin dros Mr. Richard Jones, oedd i bregethu ar ei ol. Ni welsom braidd erioed olwg mor ddigalon ar neb yn cyfodi i fynu ger bron cynnulleidfa. Yr oedd ei wyneb gwridgoch (y pryd hyny) wedi myned yn llwydaidd, a'i deimladau yn amlwg yn isel ac yn ofnus iawn. Yr oedd cannoedd lawer wedi ymadael o'r maes can gynted ag y darfu John Jones. Yr oedd hyny, ni a dybiem ar y pryd, yn rhyw gymmaint o ymwared, yn hytrach na dolur, i feddwl Mr. Richard Jones. Wedi dywedyd ychydig eiriau, ar ol darllen ei destyn, mewn ymesgusodiad am sefyll i fynu ar ol ei frawd, dan y fath amgylchiadau, fe ennillodd gyd-ymdeimlad llwyraf cynnifer ag oeddent wedi aros yno i wrandaw, ac yr oeddent yn dyrfa fawr, a chafodd yntau hefyd dro tra happus, fel y terfynodd y Gymmanfa yn nodedig o ddymunol. Yr oedd pobl Caergybi wedi aros yno, fel un gŵr, hyd ddiwedd y Gymmanfa: a chawsom daith gysurus iawn oddiyno gartref, gan fyned dros y pregethau yr holl ffordd, nes cyrhaedd Caergybi ryw bryd cyn boreu drannoeth.

Ar y dydd cyntaf o'r mis Awst canlynol, fe gychwynodd John Jones drachefn oddicartref tua Chymmanfa Llangeitho, yr hon oedd i'w chynnal ar y Mercher a'r Iau, y nawfed a'r degfed o'r mis hwnw. Yr oedd yn pregethu yn y capel yn y Gymmanfa hono, neu yn hytrach y