Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/177

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

noswaith flaenorol iddi, o flaen y Parch. John Elias. Ei destyn yn Llangeitho y tro hwn oedd Ioan iii. 16. Ei air ei hunan am y bregeth ydyw "go dda." Yn y rhan gyhoeddus o'r gwasanaeth, a berthynai i'r Gymdeithasfa fel y cyfryw, ni chafodd efe ei enwi i wneyd dim. Dichon y byddai yn ddyddorol gan lawer o'n darllenwyr weled pwy oedd yn cymmeryd rhan arbenig yn y Gymdeithasfa hono. Y mae yr adroddiad canlynol wedi ei wneyd i fynu o'r hyn a geir yn Seren Gomer, Llyfr ix., tudal. 280, y Rhifyn am Medi, 1826; a Goleuad Cymru, Llyfr iv., tudal. 502, y Rhifyn am Medi, 1826.

"Dydd Mercher am bedwar yn y prydnawn, dechreuwyd trwy ddarllen a gweddio gan Mr. Hopkin Bevan, Abertawy, a phregethodd Mr. John Jones, Treffynnon, ar Matt. xvi. 26; a Mr. Thomas Richard, ar Esaia lv. 7. Bore dydd Iau, am chwech, dechreuwyd gan Mr. John Edwards, Berthen Gron, a phregethodd Mr. Thomas Owen, Llangefni, ar Barn. ii. 10; a Mr. Owen Jones, Sir Drefaldwyn, ar Col. i. 19, 20. Am wyth ar y gloch, boreu Iau, neillduwyd Mr. Evan Rees, Llanon, Mr. Daniel Evans, Capel Drindod, Mr. Thomas Evans, Caerfyrddin, Mr. Evan Harris, Aberhonddu, a Mr. Morris Davies, Llanfair Muallt, i waith cyflawn y weinidogaeth. Am ddeg ar y gloch, dechreuwyd gan Mr. William Roberts, Clynog; a phregethodd Mr. John Evans, Llwynffortun, ar Iago iv. 8; a Mr. John Roberts, Llangwm, ar Psalm xxiv. 7. Am ddau ar y gloch, dechreuwyd gan Mr. Humphrey Gwalchmai; a phregethodd Mr. Theophilus Jones, Wotton-under-edge, ar Ioan i. 16, rhan yn Gymraeg a rhan yn Saesonaeg; a Mr. John Elias, ar Ioan viii. 39. Am chwech yn yr hwyr, pregethodd Mr. Morgan Howell, ar 1 Cor. i. 30; a Mr. David Griffiths, Llantwd, ar Gal. iv. 4."

Y mae yn ymddangos i ni, erbyn hyn, braidd yn syndod na buasai rhyw sylw mwy cyhoeddus yn cael ei wneyd o John Jones yn y Gymmanfa hon. Ni chlywsom ni mo hono ef ei hunan yn cwyno dim oblegyd diffyg hyny, ond yr oedd ei gyfaill, Mr. John Jones, Beddgelert, yn siomedig ac yn ofidus iawn. Yr oedd yn enwedig yn cofio yr hyn a gymmerasai le yn Llanbedr dair blynedd cyn hyny, ac yn arbenig y sicrhad a roddasid gan Mr. Ebenezer Morris a Mr. David Evans, a Mr. Ebenezer Richard, os deuai drachefn i'w plith, y cai un o'r lleoedd mwyaf cyhoeddus yn eu Cymmanfaoedd; ac yr oedd yn gwybod hefyd am y drafferth a gawsai i gael gan Mr. John Jones