Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/178

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gydsynio â'i gais ef, ac â chais y Cyfarfod Misol, i ymweled y pryd hyny â'r Deheudir,―rhwng pob peth yr oedd yn dra siomedig a phoenus ei feddwl. Aeth at Mr. Ebenezer Richard i ymliw ag ef, ac i ddywedyd ei gwyn wrtho. Yr oedd Mr. Richard mor ofidus ag yntau. "Ond pwy, John Jones, bach, fuasech chwi yn adael allan? Yr oedd yma gynifer o wyr mor rymus ac yn llawer hynach nag ef, fel wedi y cwbl, sut y gallesid trefnu yn wahanol." "Gadael allan Mr. Richard," ebai yr hen flaenor, "os na buasai yn bosibl gwneyd lle iddo fo heb adael neb arall allan, mi fuaswn I yn gadael Mr. Elias neu Mr. Evans, New Inn, allan." "Pa'm na fuasech chwi yn dywe'yd Tommy, 'mrawd?" meddai Mr. Richard, "fe fuasai yn haws i mi wneyd hyny. Ond y gwirionedd yw, John Jones, nid oedd genyf fi, am eleni, un ran yn y trefniad; ac yr oeddwn, y mae braidd yn sicr genyf, mor siomedig a chwithau pan y clywais ei ddarllen, ac y deallais nad oedd John Jones, Llanllyfni, i wneyd dim yn gyhoeddus yn ein Cymdeithasfa, yn enwedig wrth gofio am yr esgeulusiad fu arno yn Llanbedr dair blynedd yn ol. Ond yr wyf yn hyderu na chaiff y fath anffawd ddygwydd byth mwy." Cyrhaeddodd Mr. John Jones ei gartref Awst 15. Yn y coflyfr, y cyfeiriasom ato, ar ei ddychweliad gartref, y mae yn ysgrifenu,— "Gwelaf fy hun yn rhwymedig i'r Arglwydd, am gael fy nheulu mor gysurus a didramgwydd!"

Yn niwedd Medi, a dechreu Hydref, y flwyddyn hon, aeth ar daith fèr trwy Sir Fôn, yr ail waith iddo fyned trwy y Sir. Yr oedd yn myned i'r daith hon, mewn cysylltiad a Chymdeithasfa Caergybi, yr hon a gynhelid yno ar ddydd Mawrth a dydd Mercher, Hydref 3ydd a'r 4ydd. Yn y Gymdeithasfa hono, am bump y prydnawn cyntaf, pregethodd Mr. Daniel Evans, Capel-y-drindod, * * * * * * A Mr. David Griffiths, Llantwd, ar Job ix. 4. Am ddeg ar y gloch, pregethodd Mr. John Jones, ar Lef. xvii. 11; a Mr. David Griffiths, ar Gal. iv. 4. Am ddau ar y gloch, pregethodd Mr. Henry Rees, ar 2 Sam. xxiii. 5, o flaen Mr. Daniel Evans. Nid ydym yn cofio testynau Mr. D. Evans. Am chwech, yn yr hwyr, pregethodd Mr. John Jones, ar Ioan iii. 16; a Mr. Henry Rees, ar Diar. vi. 10, 11. Yr oedd rhyw arddeliad annghyffredinol ar bregethu Mr. Rees yn y Gymmanfa hon. Yn neillduol yr oedd ei bregeth, y nos ddiweddaf, ar "Ddiogi Ysbrydol" yn cyrhaeddyd trwodd, hyd wahaniad yr enaid a'r ysbryd, y cymmalau a'r mêr, ac yn barnu meddyliau a bwriadau calonau ei wrandawwyr,