Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/179

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nes yr oedd rhyw arswyd rhyfedd wedi meddiannu yr holl gynnulleidfa. "Caled" ydyw y gair a arferir gan Mr. John Jones i ddynodi ei bregeth ei hunan yn y boreu, a "da" am yr un y nos. Ond, yn sicr, os oedd y boreu yn "galed" iddo ef, nid ydoedd felly i neb arall. Y mae genym gystal cof am ei ddull a'n teimladau, a rhyw gymmaint o'r pethau a ddywedodd, a phe buasem yn ei wrandaw neithiwr, ac yr oedd yn pregethu gyda nerth ac effeithiolrwydd mawr. Yr ydym yn gweled, erbyn hyn, fod diffyg dirfawr mewn unoliaeth yn y bregeth, a'i bod wedi ei llunio yn y fath fodd ag oedd yn gosod y pregethwr dan angenrheidrwydd i gyffwrdd â gormod o lawer o bethau o fewn yr amser oedd ganddo :-fod gan ddyn enaid-fod yr enaid mewn ymrafael â Duw-ei fod dan euogrwydd oblegyd yr ymrafael hwnw— fod dyn ei hunan yn analluog i wneyd iawn-mai yn ngwaed Crist yr oedd yr iawn hwnw i'w gael-fod darluniad o hyny yn y cysgod y cyfeirid ato yn y testyn-ac yna darn hir ar berthynas y defodau Iuddewig â Iesu Grist, &c. Ond, er hyny, yr oedd y bobl wedi eu rhwymo i'w wrandaw, ac effeithiau nerthol iawn, cyn i'r bregeth derfynu, ar y gynnulleidfa drwyddi. Yr ydym yn cofio yn dda fod yr holl bregethwyr oeddent ar y stage wrth eu bodd yn gwrandaw arno. Nid oeddem ni ein hunain yn tybied fod y bregeth y nos mor ddylanwadol o lawer ar y bobl a'r bregeth yn y boreu, er ein bod, erbyn hyn, yn barnu ei bod yn rhagori llawer arni fel cyfansoddiad. Yr ydym yn cofio un sylw ynddi a deimlid genym ar y pryd yn newydd ac yn rymus iawn, ac a deimlid felly gan y gynnulleidfa yn gyffredinol. Pan yn son am y cysylltiad sicr sydd yn nhrefn Duw rhwng "credu yn y Mab" a "bywyd tragywyddol," gwaeddai allan yn y llais soniarus oedd ganddo:-"Nid oes yma ddim lle, 'mhobl i, i Gwymp oddiwrth Ras' roddi ei droed i lawr. Y mae y bywyd tragywyddol' yn ddiogel gyda'r credu cyntaf, ac o'r credu cyntaf. Nid o'r pryd y bydd y cristion marw, ac yr elo i mewn i'r nefoedd, ond o'r pryd y mae yn marw iddo ei hunan, ac yn dechreu 'byw trwy ffydd Mab Duw.' Nid wedi cyrhaedd Canaan, ond yn nghanol yr anialwch, er y seirph tanllyd a'r holl ysgorpionau. Nid wedi ennill y fuddugoliaeth, ond yn nghanol y rhyfel, yn mhoethder y frwydr. Pa beth bynag a all fod amledd a lid a grym y gelynion, ystryw a nerth yr ymosodiadau a allant wneyd arno, ac eiddilwch y credadyn gwan i'w cyfarfod, nid oes achos iddo ofni dim. Cyhyd ag y byddo dim gallu yn mraich yr