Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/180

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Hollalluog, dim tosturi yn mynwes Duw pob gras, dim ymddiried yn ngwirionedd y Duw digelwyddog, y mae ei fywyd yn gwbl ddiogel. Y mae y credu lleiaf a'r credu cyntaf yn y Mab yn cadw byth."

Wedi y Gymdeithasfa yn Nghaergybi, aeth rhagddo drwy y sir, gan bregethu gyda grym ac effeithioldeb mawr braidd bob oedfa, nes dibenu ei daith yn Llanfair, nos Sadwrn, Hydref 14, a myned drosodd i Rydfawr, Pentir, a'r Ysgoldy, yn Sir Gaernarfon, at y Sabbath. Cafodd hyfrydwch annghyffredin i'w feddwl ei hunan ar yr ymweliad hwn â Sir Fón. "Da" yw y gair cyffredin ganddo i ddynodi ei brofiad am ei holl oedfaon. Nid yw "caled" ond ryw ddwy waith neu dair ganddo am holl bregethau ei daith. Effeithiodd pregeth Mr. Rees, yn Nghaergybi, gymmaint ar ei feddwl, nes peri iddo benderfynu o'r newydd ymroddi yn llwyrach nag erioed i wasanaeth ei Arglwydd, ac ymryddhau hyd y gallai byth oddiwrth bob "Diogi Ysbrydol."

Yn niwedd y flwyddyn hon, Rhagfyr 14, 1826, cychwynodd ar daith trwy ranau o Sir Feirionydd, rhyngddo a Llanrwst, lle yr oedd Cymdeithasfa i'w chynnal ar y Mercher a'r Iau, Rhagfyr 27ain, a'r 28ain. Yr oedd yn pregethu yn y Gymdeithasfa hon, y nos ddiweddaf o flaen yr hybarch Dafydd Cadwaladr. Ei destyn yma oedd Psalm cxix. 140. Yr oedd y Gymdeithasfa yn Llanrwst yn wastadol, y blynyddoedd hyny, yn gyfarfod arbenig i ymdrin ag achos yr Ysgol Sabbothol yn y Cyfundeb, trwy holl Ogledd Cymru, ac yr oedd Mr. John Jones, y mae yn amlwg, yn pregethu ar fater a ystyrid ganddo ef yn dal cysylltiad neillduol â'r amcan uniongyrchol oedd i'r Gymdeithasfa. Y rhai a gyd-lafurient yn gyhoeddus åg ef, yn y Gymdeithasfa hono, oeddent, y nos gyntaf, Mr. Moses Jones a Mr. Elias. Am chwech y boreu, Mr. David Morgan, Trallwm. Am ddeg, Mr. Daniel Jones, Llanllechid, a Mr. Elias. Am ddau, Mr. Thomas Owen, Llangefni, a Mr. John Roberts, Llangwm.

Wedi dychwelyd adref o'r daith hon, yr ydym yn cael y sylw canlynol yn ei goflyfr, fel profiad iddo ei hun, dybygid, pan yn adolygu y flwyddyn oedd yn terfynu Rhagfyr 31, 1826:-"Tonau y byd ydynt fwy eu twrf nag o niwed." Pa donau bynag a allent fod yn rhuo yn ei glustiau, ar yr adeg hon, y mae yn amlwg ei fod ef yn teimlo mesur o wynfydedigrwydd y dyn duwiol; "yn llifeiriant dyfroedd mawrion ni chânt nesau ato ef." Yn wir, y mae yn ymddangos ei fod, y dyddiau a'r wythnosau hyn, mewn profiad tra chysurus. Ar gyfer Ionawr