Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/181

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

11eg a'r 19eg, 1827, yr ydym yn ei gael yn ysgrifenu yn ei goflyfr,"Ymddiriedaf byth yn aberth Crist am fywyd tragywyddol. Yma y diwellir fy nghydwybod euog. Yma y boddlonir cyfiawnder Duw." Yr oedd yn pregethu agos bob wythnos, y pryd hwn, ar Heb. x. 21, ac Esaiah liii. 5. Yr oedd ganddo amryw bregethau ar y naill a'r llall o'r adnodau yna. Yr oedd rhywbeth annghyffredin o effeithiol, yn y pregethau hyn, yn enwedig y pregethau ar Easiah liii. 5. Y mae y Parch. Griffith Hughes, Edeyrn, yn ysgrifenu atom, fel y canlyn, am dano gyda golwg ar y pryd hwn ac ychydig amser cyn hyn:"Cafodd afael lwyr yn fy nghalon, a meistrolaeth hollol arnaf fi ac ychydig o'm cyfoedion ieuaine, yn yr ail bregeth a wrandewais ganddo erioed, a hyny oedd yn haf y flwyddyn 1823, pan y daeth i Edeyrn ar gyhoeddiad Sabboth. Y testyn cyntaf a glywais ganddo oedd, Ein Tad, yr hwn wyt yn y nefoedd.' Nid oedd y tro hwnw yn ateb i'r darluniad a roddasai fy nhad i mi o hono, oddieithr yn ei berson, ac yn 'ei weddi, yr hon oedd yn hynod o rymus. Aethum i Nefyn, y prydnawn, i'w wrando, ac yno yr oedd nerth dwyfol gyda'i bregethu. Yn mha le bynnag, o hyny allan, y cyhoeddid John Jones, os o fewn cyrhaedd myned yno ddechreunos ac adref i gysgu, byddwn i a'm cyfoedion braidd yn sicr o fod yno. Cofus iawn genyf ei glywed, yn mhen rhai blynyddoedd wedi hyny, yn pregethu tair o wahanol bregethau meithion ar y geiriau, 'Cospedigaeth ein heddwch ni oedd arno ef.' A gallaf dystio mai y gyfres hono a'i dangosodd ef fwyaf oll yn ein gwlad ni. Rhaid addef y byddai llawer pell-gyrchiad ganddo: ond dychwelai at y bobl â thrysorau gwerthfawr, a gwedd newydd arnynt oll, er nad elai byth dros derfyn gwirionedd, os elai dros derfynau ei destyn, i'w dwyn allan. Cofus genyf ei glywed, wrth ddarlunio y Gospedigaeth, yn dywedyd, gyda theimlad cryf, 'Nid archollion diniwed oedd yn ei draed a'i ddwylaw, ond yr oedd yr hoelion drwodd i'r pen. Nid archoll ysgafn oedd ar ei ystlys, ond yr oedd yno ddwfr a gwaed o'i galon ef, &c. Ond wedi rhwygo y ddaear, fe ddangoswyd fod yno graig yn dal; ac allor yn sancteiddio y rhodd i'w gwneyd yn gymmeradwy er cael heddwch i ni.'

Ar nos Sadwrn, Ionawr 20, 1827, yr oedd yn pregethu yn Nhrefriw, pryd yr oedd yn dechreu ar daith, drachefn, trwy Siroedd Dinbych a Fflint. Yr oedd yn gorphen y daith, ac yn dychwelyd adref, Chwefror 13eg. "Da" ydyw y gair, a arferir ganddo, i ddynodi ei brofiad am