Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/182

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bob oedfa braidd o'r daith hon. Yr oedd yr hen frawd, Richard Williams, Brynengan, yn gyfaill gydag ef y tro hwn. Clywsom ef yn adrodd am un tro digrifol iawn a wnaeth Richard Williams âg ef un diwrnod y pryd hyn. "Yr oeddwn i," meddai, "ryw foreu yn lled isel a digalon, ac wedi myned braidd yn bryderus yn nghylch Fanny' a'r plant; ac nid oeddwn yn siarad llawer â Richard Williams fel arfer. Yr oedd yntau wedi deall fy mod braidd yn bruddaidd, ac wedi ceisio trwy amryw ffyrdd fy nghalonogi. Ond nid oedd yn llwyddo dim. Aeth yn ddistaw hollol, ac i gadw tu ol i mi gryn bellder. O'r diwedd, mi glywn Richard Williams yn gwaeddi yn uchel arnaf wrth fy enw. Beth sydd, Richard Williams,' meddwn innau. Dowch yma, John Jones, dowch yma.' Beth sydd Richard,' meddwn i drachefn. Yr oedd yr hen ŵr ar gefn y ceffyl, ac yno yn aros, heb symmud dim, ac yn parhau i waeddi arnaf. Aethum ato. 'Beth sydd, Richard Williams, oes rhyw waeledd arnoch chwi ?' 'Gwaeledd, John Jones, yr ydwyf fi mewn tywydd mawr.' 'Beth sydd arnoch chwi, Richard Williams, bach? Wel, yr ydych chwi wedi bod yr holl amser yma gyda'ch pregeth, y mae yn debyg iawn, ac yr ydwyf finnau wedi bod mewn llawer iawn o Gyfarfodydd Misol, yn Sir Gaernarfon; ac a wyddoch chwi, John Jones, yr ydwy' i wedi cael allan yn sicr beth na ddarfu i neb o honoch chwi ei gael o allan erioed.' Wel, beth ydy' o, Richard Williams?' 'Wel, John Jones, nid ydych chwi ddim yn cymmeryd hanner digon o sylw o honof fi yn y Sir acw.' Fe lwyddodd yr hen frawd ar unwaith, i ymlid ymaith y prudd-der oedd wedi ymdaenu dros fy meddwl; torais allan i chwerthin yn gwbl ddilywodraeth; a theimlais yn galonog iawn am y gweddill o'r daith."

Ar ddydd Sadwrn, Mai 5, 1827, fe gychwynodd oddicartref drachefn, ar daith faith i'r Deheudir, gan gymmeryd Cymdeithasfa Llanfaircaereinion, Sir Drefaldwyn, yn ei ffordd, yr hon a gynhelid Mai 8 a 9, lle y pregethodd, y prydnawn cyntaf, ar Esaiah liii. 5, gyda rhyw nerth ac awdurdod a deimlid gan bawb yn anorchfygol. Cawn gyfeiriad at y bregeth hono yn fuan, o enau y gŵr oedd yn gyfaill iddo ar y daith hon. Ar ol y Gymdeithasfa yn Llanfair, fe brysurodd tua 'r Deheubarth, gan ymweled yn lled fanwl â'r holl gynnulleidfaoedd yn Sir Frycheiniog, ac yn Sir Forganwg, naill ai cyn ai gwedi Cymdeithasfa Penybont-ar-Ogwr, yr hon a gynnhelid Mai 30, 31. Yr oedd dysgwyliad mawr am y Gymdeithasfa hono yn Mhenybont, am fod nifer