Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/183

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mawr o'r gwŷr enwocaf a berthynent i'r Cyfundeb, wedi addaw dyfod iddi: ac fe gydnabyddir hyny, ar unwaith, pan y canfyddir fod Mr. Elias, Mr. Charles, Caerfyrddin, Mr. Evans, Llwynffortun, Mr. Ebenezer Richard, Mr. Thomas Richard, Mr. Thomas Jones, Caerfyrddin, Mr. Morgan Howell, ac amryw ereill, yn y Gymdeithasfa hono. Yr oedd Mr. Thomas Richard a Mr. Elias yn pregethu y prydnawn cyntaf, a Mr. Thomas Harris, Hwlffordd, yn y Saesonaeg rhyngddynt. Yr oedd Mr. Evans a Mr. Elias yn pregethu am ddeg, a Mr. Charles yn y Saesonaeg rhyngddynt. Ac am ddau ar y gloch yr oedd Mr. John Jones, a Mr. Ebenezer Richard yn pregethu. Testyn Mr. John Jones yn y Gymdeithasfa hono, y Gymdeithasfa gyntaf iddo gael bregethu ynddi yn y Deheudir, ydoedd Psalm cxvii. 2. Yr oedd David Prichard, Bangor y pryd hyny, Pentir wedi hyny, yn gyfaill iddo ar y daith hon, ac y mae yn dda genym allu gosod ger bron ein darllenwyr yr adgofion canlynol o'i eiddo ef am dani, a ysgrifenwyd, o'i enau ef ei hunan, gan y Parch. John Owen, Ty'n Llwyn:—"Aeth David Prichard ac yntau gyda'u gilydd ar daith i'r Deheudir. Yn Nghymmanfa Llanfair Caereinion, ar eu ffordd yno, fe bregethodd Mr. John Jones, y prydnawn cyntaf, oddiar Esaiah liii. 5. Yr oedd amryw o enwogion yr oes o'r blaen yn bresennol, megis John Roberts, Llangwm, William Havard, William Jones, Rhuddlan, ac amryw ereill. Yr oedd effeithiau rhyfeddol yn cyd-fyned â'r bregeth hon; amryw o'r hen frodyr yn wylo yn hidl, a llawer yn y gynnulleidfa yn tori allan i lefain. Dywedai William Jones, Rhuddlan, wrth David Prichard, "Wel, ni chlywais i erioed ei debyg o:-beth a ddaw o'r creadur truan sydd i bregethu ar ei ol?" gan gyfeirio at un o'r hen frodyr o'r Deheudir. Hon oedd taith gyntaf Mr. John Jones i'r parthau o'r Deheudir yr oedd yn awr yn myned iddynt; a mawr yr holi a fyddai ar ei gyfaill yn ei gylch, ac amryw a dieithr y sylwadau a wneid arno. Eu syndod mwyaf oedd, ac yr oedd iddynt hwy braidd yn anhygoel, nad oedd y fath bregethwr ond Cymro uniaith. Eu tyb yn gyffredin cyn cael gwybod yn amgen oedd, fod yn rhaid ei fod yn feistr ar amryw ieithoedd. Ar y daith, cafwyd Cymmanfa yn Mhenybont-ar-Ogwr. Pregethodd yno ar y geiriau, "Oherwydd ei drugaredd ef tuag atom ni sydd fawr." Yr oedd Mr. Elias, Mr. Charles, Caerfyrddin, ar ddau Richard yno. Bu ei bregeth yn Llansamlet, ar y daith hono, yn foddion i ddychwelyd cryn nifer. Pan oedd David Prichard ac yntau