Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/184

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn Abertawy, yr oedd ffair wagedd yno, yr hon a barhai dri diwrnod. Bu y cyfeillion crefyddol yno mor wrol, a rhoddi y bregeth yn opposition i'r ffair. Yr oedd ganddynt fantais i hyny. Cynnelid y ffair ar y Maesglas, gyferbyn a'r Capel. Cymmerodd y cyfeillion y rhan o'r Maes, ag oedd yn nesaf i'r Capel, dros ystod y ffair am hanner gini, er mwyn i'r rhai a ddewisent gael lle i ddyfod i wrandaw. Yr oedd y pregethu am ddau yn y prydnawn, a thrachefn yn yr hwyr, yn ffenestr y Capel. Ni bu dim hynod o un ochr yn yr oedfa am ddau ar y gloch. Erbyn chwech, yr oedd y diafol fel wedi ysbrydoli ei weision:-llawer wedi meddwi-dau yn y cwr pellaf yn ymladd wedi ymddiosg-a llawer o chwareuyddiaethau ynfyd yn myned yn mlaen. Ond trodd yn chwithig iawn arnynt. Yr oedd Mr. William Williams, Aberteifi, yn pregethu o flaen Mr. John Jones. Ei destyn oedd, Dyro gyfrif o'th oruchwyliaeth.' Yr oedd Mr. William Williams yn pregethu fel un ag awdurdod ganddo, ac ambell erfyniad taer yn cael ei anfon i'r nefoedd am lwyddiant. Yr oedd golwg ryfedd ar Mr. John Jones tra y parhäodd y bregeth gyntaf; yr oedd yn hawdd canfod ei fod mewn ymdrech meddwl.' Pan gododd i fynu yr oedd ei lygaid yn melltenu, ac yn fuan yr oedd ei hyawdledd tanllyd yn gorchfygu pob peth o'i flaen. Yr oedd teulu y shopiau gwynion yn gadael eu shopiau ac yn troi i wrando. A'r rhai oedd yn gosod arian ar benau priciau, i hudo ffyliaid atynt i chwareu, yn gadael y priciau a'r arian arnynt, gan dynu yn mlaen i blith y gwrandawwyr. Mor rymus oedd dylanwad y weinidogaeth! Tua chanol y Maesglas, i berffeithio y ffair wagedd, yr oedd fiddler yn chwareu, a'r rhai mwyaf ymroddgar i wagedd yn dawnsio o'i flaen. Pan aeth nerthoedd y weinidogaeth yn fawr iawn, peidiodd y dawnsio. Nid oedd y fiddler, meddai gŵr oedd yn edrych, wedi sylwi ar y cyntaf, fod ei gyfeillion wedi rhoddi i fynu ddawnsio: naill ai yr oedd yn rhy hoff o sŵn y fiddle i sylwi, neu, yn hytrach, yr oedd nerth yr efengyl wedi caethiwo ei feddwl yntau hefyd, nes ei fod yn chwareu y fiddle heb wybod beth yr oedd yn ei wneuthur. Ac yn lled ddisymwth, dyna yr offeryn cerdd yn cael ei ollwng ar y ddaear, fel yr arian ar benau y priciau, a'r hwn oedd yn ei chwareu yn tynu yn mlaen i wrando y bregeth. Ni bu arfau rhyfel erioed mewn brwydr yn cael eu taflu i lawr gyda mwy o arwyddion colli y dydd, nag ar Faes glas, Abertawy, y waith hono. Canys o rhwng pedair a phum' mil o bobl, nid oedd ond o ddau i dri