Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/185

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

chant, yn y cwr pellaf, o ryw ddieithriaid crwydrol, gyda rhyw Show, heb adael y gwagedd a throi at yr efengyl. A dywedir na fu byth wedd ar ffair wagedd Abertawy ar ol hyny.

Mewn dau amgylchiad, darfu i ryw rai tra digrefydd ymddwyn yn dra anngharedig, ac mewn ysbryd erledigaethus, tuag at Mr. John Jones a'i gyfaill. Yn agos i Aberdar darfu i ryw ddyhiryn hysio ci,. mawr ar eu hôl am tua chwarter milltir o ffordd, ac wrth gefnu arnynt, gwaeddai yr adyn ei holl egni, Hys, hen Fethodistiaid y ——————i'r —————— a chwi bob un.' Yn Llanbedr hefyd, cawsant eu trin, nid yn rhyw lawer gwell, gan rai o'r un yspryd. Er fod erledigaeth, ynddo ei hun, yn un o'r pethau mwyaf atgas, y mae yn godiad i gymeriad dyn ei fod yn werth ei erlid.

Yn Llanymddyfri, y pryd hwn, yr oedd Cyfarfod Misol Sir Gaerfyrddin, ac yr oedd Mr. Elias a Mr. John Jones yn cyfarfod â'u gilydd yno, ac yn pregethu gyda'u gilydd. Cafodd John Jones dro hynod iawn yno. Nid oedd yn dygwydd bod felly, y tro hwnw, gyda Mr. Elias. Yr oedd y ddau yn ddieithr iawn yno; nid oedd Mr. John Jones, wedi bod yno erioed o'r blaen; ond yr oedd enw Mr. Elias yn dra hysbys, a dysgwyliad mawr am dano. Ac ar ol i'r oedfa fyned drosodd, pan y pregethai y ddau gyda'u gilydd, fe glywid rhyw rai yn canmol Mr. Elias yn fawr iawn-dros ben: 'Ond, pwy,' meddynt wrth eu gilydd, 'a allasai yr hen ŵr a bregethodd ar ei ol fod?"

Y mae Mr. John Owen yn ychwanegu, at yr adroddiad yna a gafod gan David Prichard, yr hyn a ganlyn:—"Dyma lith yr hen frawd, fel y cefais i hi ganddo. Dywedaf finnau. Pan glywais John Jones y troion cyntaf, a mi yn fachgen lled ieuanc, edrychwn arno, yn mysg pregethwyr ereill Sir Gaernarfon, fel yr haul yn mysg goleuadau y nefoedd:rhyw fawredd rhyw danbeidrwydd-rhyw oleuni, na feddai neb arall mo hono. Pan ddaethum i gydnabyddiaeth ag ef fel cyfaill, sylwn bron fwy ar ei ddysymledd, ei agosrwydd ataf, ei gywirdeb dianwadal, nag at ei ragoriaethau fel pregethwr. Nid oedd y sawl a'i hadwaenai fel pregethwr yn unig wedi gweled ond cwr ei feddwl."

Mae cyfaill arall wedi anfon i ni yr adroddiad a roddodd David Prichard iddo ef am y Cyfarfod yn Abertawy. Fel y canlyn y mae hwnw Yr oedd ffair wagedd yn cael ei chynnal o flaen y Capel, a Mr. William Williams, Aberteifi, a Mr. John Jones i bregethu yn y ffenestr. Pan yr oedd Mr. Williams yn dechreu pregethu yr oedd yno