Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/186

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bob digrifwch yn myned yn mlaen, a rhai yn ymladd â'u gilydd o flaen ei lygaid. Cafodd Mr. Williams hwyl pur dda i draddodi. Wedi iddo ef ddarfod, dyna Mr. John Jones yn codi, a'i lygaid fel tân. Cymerodd ei destyn yn Dat. xxii. 1. 'Ac efe a ddangosodd i mi afon bur o ddwfr y bywyd, dysglaer fel grisial, yn dyfod allan o orseddfainc Duw a'r Oen.' Yr oedd yn sefyll yn y ffenestr, a'i wyneb allan, ac yn pregethu gyda'r fath awdurdod na chlywais i mo hono erioed yn debyg; a'r bobl yn troi, wrth y cannoedd, oddiwrth y ffair wagedd i wrando arno; fel y bernid, cyn diwedd yr oedfa, nad oedd cymmaint ag un oedd yn deall Cymraeg wedi aros gyda'r ffair wagedd. Rywbryd, cyn diwedd y bregeth, fe droes ei wyneb i mewn i'r Capel, ac â golwg seraphaidd arno, fe waeddodd allan, gyda'i lais ei hunan, Yr Orseddfainc, bobl, sydd yn myned â hi allan o ddigon: pa fodd y mae hi arnoch chwi i mewn yma ?' Torodd allan yn waeddi mawr drwy y Capel. Yn mhen y flwyddyn, yr oeddwn i yno gyda Mr. Moses Jones, ar adeg y ffair wagedd, drachefn. Ond nid oedd yno braidd ddim o honi. Yr oeddent yn dywedyd wrthym fod John Jones, Llanllyfni, wedi ei lladd yn farw."

Yr oedd Mr. John Jones ei hunan yn arfer ystyried y tro hwn yn Abertawy fel un o'r rhai mwyaf hynod yn ei oes. Ac, yn ddiddadl, y mae yn anhawdd meddwl am fuddugoliaeth lwyrach, ar y pryd, o eiddo yr efengyl, yn ei symledd a'i nerth ei hunan, ar ynfydrwydd anfad plant dynion. Ei ddywediad ef ei hunan wrth sôn am yr amgylchiad ydoedd, "Ni welais i, wedi y cwbl, ddim erioed cyn waned âg annuwioldeb pan y daw ychydig oleuni o'r nef."

Yr oedd yn pregethu gyda nerth annghyffredin yr holl daith hon. Yr oedd y tro y cyfeiriwyd ato eisoes, gyda Mr. Elias yn Llanymddyfri, yn un hynod iawn. Ei destyn, y pryd hwnw, oedd Esaiah v. 4. Gadawodd ei bregeth argraff ddofn iawn ar feddyliau ugeiniau; ac nid oedd odid neb, yn y gynnulleidfa fawr, yn ymddangos yn teimlo yn fwy na Mr. Elias ei hunan. Byddai Mr. John Jones yn arfer dywedyd fod Mr. Elias, yr oedfa hono, wedi rhoddi tro dedwydd iawn i'w sylwadau, er dwyn i mewn, fel adgyflenwad i'w bregeth ef, y wedd neillduol ar y gwirionedd ag yr oedd efe, ar hyd ei oes, wedi arfer gosod arbenigrwydd arni, tra yn cadarnhau yn gwbl y wedd gyferbyniol a gymmerasid ganddo ef. Wedi i Mr. John Jones ddangos i'w wrandawwyr eu bod wedi cael pob mantais ag oedd yn angenrheidiol i'w cyfrifoldeb, ac os colledig yn y diwedd fyddent, mai arnynt hwy yn unig y byddai y bai, a rhwymo