Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/187

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

felly y gwrandawwyr i ystyriaeth ddifrifol o'u dyledswydd a'u perygl a therfynu gan adael y gynnulleidfa fawr drwyddi yn y teimladau mwyaf cynhyrfus, fel pe buasai dydd barn wedi dyfod; daeth Mr. Elias a'r ochr arall, gyda deheurwydd a phrydferthwch mawr. Dangosodd mai trefniant gras oedd yr efengyl drwyddi-nad oedd dim a berthynai iddi yn gyfryw ag oedd yn hanfodol i gyfrifoldeb dyn, neu y buasai yn gam ag ef fel creadur neu fel pechadur ei attal oddiwrthoa thra nad oedd dim "yn ychwaneg" yn angenrheidiol er gwneyd dynion yn gyfrifol yn wyneb efengyl, ac i'w gadael yn ddiesgus byth os colledig fyddent, na'r cyhoeddiad o honi a'r cymhelliadau a gyflwynid ger eu bron i'w derbyn, ac nad oedd gwrthodwyr yr efengyl byth allan o'r perygl o gael eu gadael i ymgaledu fel y cyfryw—eto, gan mai trefniant gras ydoedd, fod darpariaeth ynddi ar gyfer gelyniaeth a gwrthnysigrwydd calonau pechaduriaid, "Mi a'i hanfonaf Ef:"—a bod hyny yn gysur i rieni duwiol i barhau i addysgu eu plant; i athrawon ac athrawesau yr Ysgol Sabbothol i ffyddlondeb gydâ'u dysgyblion; i weinidogion yr efengyl i ymdrechiadau mwy egnïol i gael eu gwrandaẅwyr celyd at Fab Duw; i'r eglwys fawr yn ei holl aelodau i weddïau ac ymbiliau ar Dduw i anfon ei Yspryd i wneuthur o'i ras pen-arglwyddiaethol yr hyn nad oedd rhwymau arno i'w wneuthur mewn cyfiawnder noeth, ac nad oedd yn angenrheidiol ei wneuthur tuag at adael pawb yn gyfrifol. Prin yr oedd Mr. John Jones yn credu y buasai Mr. Elias, mewn blynyddoedd diweddarach, yn ei drin ef yn llawn mor dyner. Ond yr ydym yn crwydro at yr hyn sydd i ddyfod yn helaethach o lawer dan ein sylw eto.

Fe ddychwelodd Mr. John Jones o'r daith hon yn y Deheudir i'r Bala, lle, am y tro cyntaf yn y Gymdeithasfa yno, y pregethodd am chwech ar y gloch y boreu, Mehefin 14eg, ar Psalm xxxii. 6, o flaen Mr. Jeffrey Davies. Yr ydym wedi cael cyfeiriad eisoes, gan un o'r rhai oeddent yn cyd-weithio âg ef rai blynyddoedd cyn hyn, yn y Gloddfa, yn Llanrhochwyn, at y bregeth hon, a'r effeithiau nerthol a gynnyrchid drwyddi ar deimladau y dyrfa fawr oedd yn bresennol. Yr oedd yr holl bregethwyr, hyd yn nod y rhai henaf a mwyaf llesg, wedi gofalu am fod yno y boreu hwnw, ac, yn ol pob peth a glywsom, yr oedd pawb o honynt yn teimlo fod rhywbeth annghyffredin yn y bregeth. Yn y Gymdeithasfa hon yr oedd Mr. William Morris a Mr. Michael Roberts yn pregethu y prydnawn cyntaf; Mr. Thomas Richard a Mr. Elias am