Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/188

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddeg; Mr. Henry Rees a Mr. Ebenezer Richard am ddau; a Mr. John Hughes, Sir Drefaldwyn, a Mr. Thomas Richard yn yr hwyr. Yn y Gymdeithasfa hon hefyd y neillduwyd Mr. Henry Rees i gyflawn waith y weinidogaeth.

Wedi prysuro tua chartref o'r Bala, ar ol bod oddicartref tua chwech wythnos, a chael ei deulu yn iach a chysurus, aeth yr wythnos ganlynol i Sir Fôn, i Gymdeithasfa Amlwch, yr hon a gynhelid ar y Mercher a'r Iau, Mehefin 20fed a'r 21ain. Yr oedd Mr. Elias, Mr. John Roberts, Llangwm, Mr. Michael Roberts, Mr. James Hughes, Lleyn, Mr. John Davies, Nantglyn, a Mr. Morris Roberts yn pregethu yn Amlwch y tro hwnw. Yr oedd Mr. John Jones yn pregethu yno am ddau ar y gloch ar Esaiah liii. 5, o flaen Mr. James Hughes, Lleyn. Yr oedd effeithiau anarferol ar deimladau y miloedd oeddent yn bresennol dan y bregeth hon. Yr oedd yn waeddi mawr drwy y maes i gyd. Yr oedd ei bregethau, yr oedd ganddo dair o honynt, ar y testyn hwn bob amser yn nodedig o ddylanwadol ar ei wrandawwyr, ac yn arbenig felly yn Amlwch y tro hwn. Aeth y noswaith hono o Amlwch i Lanerchymedd, lle y pregethodd drachefn gyda nerth mawr; ac oddiyno, drannoeth, tua 'i gartref.

Yn mhen tua mis ar ol hyn, Gorph. 29, 1827, yr ydoedd yn Mangor am Sabbath, yn pregethu yn y boreu ar Esaiah 1. 10; yn y Graig am ddau ar Job xiii. 9; ac yn Mangor yn yr hwyr ar Diar. xix. 20. "Da" ydyw ei air ei hunan am y boreu, a "Gwlaw" am ddau a'r hwyr. Yr oedd y Sabbath hwn, yn ddiddadl, yn Sabbath hynod iddo ef, yn mhlith Sabbathau ei oes. Mae yn ammheus genym a welwyd yn fynych yn un lle erioed gyfarfod rhyfeddach nag oedd y noswaith hono yn Mangor. Yr oedd y bregeth yn un, yn ddiammeu, yr oedd wedi bod mewn llafur mwy na chyffredin gyda hi-yr ymresymiad nad oes un "diwedd" diddymol i ddyn yn nodedig o alluog, a'r darluniada u o'r "diwedd " yn ofnadwy; ond yr oedd yr effeithiau nerthol a deimlid gan y gynnulleidfa, a chan agos bawb ynddi, tu hwnt i bob dysgrifiad. Yn ydym yn cofio yn dda am yr hen bregethwr Harri Roberts, gydag amryw ereill o'r blaenoriaid a'r hen bobl, yn tori allan i waeddi, a phawb braidd yn ymddangos fel wedi llwyr golli pob llywodraeth arnynt eu hunain. Pan y troes i ddysgrifio diwedd y "doeth,"-rhwng y pereidd-dra angylaidd oedd yn ei lais, a'r bywiogrwydd a'r prydferthwch barddonol oedd yn y darluniad, a'r gallu areithyddol annghy-