Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/189

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ffredin a'i cludai o'i enau ef at glustiau ac i feddyliau y bobl, a'r teimlad dwfn a chryf oedd yn meddiannu ei enaid ei hun yn gystal a'r eiddo ei wrandawwyr, yr oedd yr effeithiau y fath fel y mae yn anhawdd genym feddwl fod yn bosibl i neb oedd yn bresennol ar y pryd byth eu hannghofio. Buom yn ymddiddan ag ef ei huran fwy nag unwaith am y tro hwn, ac yr oedd yn hawdd gweled ei fod wedi ei nodi ei hunan yn ddwfn ar ei feddwl ef.

Yr oedd yn ymroddi i lafurio gydag egni mawr y flwyddyn hon yn ei Sir ei hunan ac mewn Siroedd ereill. Yn mis Awst, aeth i Liverpool am ddau Sabbath; lle y pregethodd ddeuddeg o weithiau gyda nerth a dylanwad mawr. Yr oedd yn pregethu yn Rose Place, y nos Wener, Awst 3, oddiar Esaiah v. 4. "Gweddol" yw ei air am yr oedfa hono. Y Sabbath canlynol, Awst 5, yr oedd yn Rose Place y boreu, oddiar Esaiah lviii. 5; y prydnawn yn Pall Mall, oddiar yr un testyn; a'r hwyr yn Bedford Street oddiar yr un testyn drachefn. Yn y boreu yr oedd yn pregethu ar y "Gospedigaeth;" yn y prydnawn, ar yr Heddwch;" ac yn yr hwyr, ar y "Cysylltiad" rhyngddynt â'u gilydd yn Aberth Crist. Nos Fawrth yr oedd yn Bedford Street drachefn, oddiar Dadguddiad xxii. 1; nos Fercher, yn Pall Mall, oddiar Diar. xix. 20; a nos Wener yn Rose Place, oddiar Esaiah 1. 10. Y Sabbath canlynol, Awst 12, yr oedd yn Rose Place, y boreu, oddiar Heb. x. 21; yn Bedford Street y prydnawn, ar yr un testyn; a'r hwyr yn Pall Mall, oddiar Psalm cxvii. 2. Pwnc y bregeth y boreu oedd "Tŷ Dduw," a'r prydnawn, yr "Offeiriad Mawr." Y nos Fawrth canlynol, yr oedd yn Pall Mall drachefn, oddiar Psalm cxix. 140; ac yn Bedford Street, nos Fercher, oddiar Psalm cii. 16. Yr oedd yr holl gyfarfodydd hyn yn Liverpool y tro hwn yn nodedig o lewyrchus. "Da" ydyw ei air ef ei hunan am danynt oll oddieithr Rose Place, Awst 3, a Pall Mall, Awst 14, y rhai a ddynodir, "Gweddol."

Aeth o Liverpool i Runcorn erbyn y nos Iau, Awst 16, lle y pregethodd gyda nerth mawr, oddiar Psalm xxxii. 6. Aeth oddiyno i Manchester at nos Wener, lle y pregethodd oddiar Esaiah v. 4. Pregethodd yno drachefn y ddau Sabbath canlynol, a thair gwaith yn yr wythnos rhyngddynt; rhwng y cwbl, pregethodd ddeng waith yn Manchester y tro hwn.

Dychwelodd o Manchester trwy Gaerlleon, ac i fynu i Ddinbych, a thrwodd i Gyfarfod Misol oedd yn Nolyddelen, Awst 30ain. Yn mis