Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/19

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

COFIANT

Y PARCHEDIG JOHN JONES, TALSARN.




PENNOD I.

BOREU EI OES: 1796—1807.

Ei Enedigaeth—ei Rieni—bywyd a chymeriad ei Dad—ei hir oediad i wneyd proffes o Grefydd—ei ymuniad â'r Eglwys ei ddewisiad yn Flaenor—ei ddoniau mewn Gweddi—tro hynod yn y Gloddfa—Profedigaeth fel swyddog yn y plwyf—ei bryder a'i hyder yn nghylch ei Blant—bywyd a chymeriad ei Fam——Angharad James—teulu y Fam—ei Galluoedd cryfion—ei Chrefydd amlwg—ei chysur yn ei Phlant—ei Marwolaeth orfoleddus—John Jones yn Blentyn—ei Grefyddolder—ei Sobrwydd—ymddifyru mewn Pregethu—rhai o'i Bregethau pan yn blentyn—yr effeithiau ar y Gwrandawyr—Pryder ei rïeni yn ei gylch—Marwolaeth ei Dad

GANWYD y Parchedig John Jones mewn tŷ a elwir Tan-y-Castell, yn mhlwyf Dolyddelen, Sir Gaernarfon. Mae gradd o amheuaeth yn nghylch amser ei enedigaeth. Yn ol y Coffadwriaeth yn y Beibl, oedd yn eiddo dybygid i'w dad, os nad ydyw y coffadwriaeth hefyd yn llawysgrifen ei dad, fe'i ganwyd ar ddydd Iau, Mawrth 1, 1796, am bedwar ar y gloch yn y prydnawn. Y mae hynyna yn ddigon eglur, fel pe buasai wrtho ei hunan na buasai unrhyw amheuaeth o berthynas iddo. Ond fe ymddengys oddiwrth lyfr cofrestriad y Bedyddiadau yn Llan y Plwyf, Dolyddelen, iddo gael ei fedyddio yno, Mawrth 19, 1797. Pa un a ydyw y coffadwriaeth yn y Beibl yn methu yn y flwyddyn, neu ynte a oedwyd am ryw achos neu arall ei fedyddio, am dros flwyddyn wedi ei enedigaeth, sydd ansicr, ac anmhosibl, ar hyn o bryd, ei benderfynu. Dybygid mai yn ol yr amser a geir yn y Beibl y byddai efe ei hunan yn arfer cyfrif ei oedran. Ei rieni oeddent John Jones, ac Elinor ei wraig, y rhai oeddent yn trigiannu ar y pryd, ac er ys amryw flynyddoedd cyn hyny, yn Nhan-y-Castell, a'r lle, yn wir, yr oedd y tad