Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/190

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Hydref y 3ydd a'r 4ydd, yr oedd mewn Cymdeithasfa yn Beaumaris, Môn, lle y pregethodd am ddeg ar y gloch, o flaen Mr. William Morris, Cilgeran, oddiar Ioan xvi. 7, gyda nerth ac arddeliad mawr. Yr oedd un o'i hen wrandawwyr, un a wrandawodd, fe allai, fwy arno na neb sydd yn awr yn fyw, Mr. Edward Ellis, Ship-builder, Bangor gynt, ond yn awr o Abergele, yn dywedyd wrthym yn ddiweddar, ei fod ef yn ystyried y tro hwn yn Beaumaris, yn un o'r rhai mwyaf hynod a gafodd Mr. John Jones yn ei oes. Yr oeddem ni yno ein hunain yn gwrando ac er nad ydyw ein syniad ni am yr oedfa mor uchel a'r eiddo ef, eto yr ydym yn cofio yn dda ein bod yn teimlo ar y pryd, nad oedd eisiau prawf cryfach o'r angenrh eidrwydd am yr hyn oedd dan sylw ganddo "Gwaith yr Ysbryd "-na bod y fath hywadledd nerthol, yn cyfodi oddiar deimlad mor ddwfn, yn aneffeithiol er cael pechaduriaid i adael eu llwybrau pechadurus, ac i ymgysegru i fywyd duwiol. Yr oedd y cyferbyniad a dynid ganddo, yn y bregeth hon, rhwng "Addewid fawr yr Hen Destament," ac "Addewid fawr y Testament Newydd," yn nodedig o brydferth ac effeithiol; a'r seiliau hyder sydd genym am gyflawniad o'r naill, oddiar y cyflawniad o'r llall, yn cael eu gosod allan ganddo gyda'r fath eglurder a grym, nes cynnyrchu llawenydd a gobaith yn mhob calon oedd yn teimlo fod angen am ryw beth mwy na dynol er achub y byd. Am ddau ar y gloch, yn y Gymdeithasfa hon, yr oedd Mr. Rees yn pregethu, gyda difrifwch a dylanwad annghyffredin, oddiar Amos iv. 12, o flaen Mr. Richard Davies, Caïo, Sir Gaerfyrddin. Hydref 31, a Thachwedd 1, yr oedd Mr. John Jones mewn Cymdeithasfa drachefn yn Nolgelleu, ac yn pregethu y nos ddiweddaf yno, ar ol Mr. William Jones, Rhuddlan. Yr oedd Mr. Elias, Mr. Michael Roberts, ac amryw ereill o'r hen frodyr, yn y Gymdeithasfa hono. Aeth o Ddolgelleu, ar ychydig gyhoeddiad, trwy ranau o Feirionydd, Dinbych, a Fflint, tua Chyfarfod Misol oedd yn Nghaerwys, Tachwedd 12ed a'r 13eg. Pregethodd yno ddwy waith, am ddau ac am chwech y dydd olaf. Yr ydoedd fel hyn, heb arbed dim arno ei hunan, mewn llafur dibaid gyda'r efengyl, ac yn mwynhau hyfrydwch annhraethol yn y gwaith. Yr oedd rhyw arddeliad annghyffredin ar ei bregethau, yn mhob man y byddai, yn ystod y flwyddyn 1827, ac y mae lle cryf i obeithio fod llawer iawn, yn y flwyddyn hono, wedi eu hennill drwyddo at Fab Duw.

Yr un ymroad a llafur a ffyddlondeb, hyd ag y gallwn ni olrhain ei