Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/191

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hanes, ac yn ol ein cof ein hunain am dano, a'u hynodent ef yn y flwyddyn ganlynol, 1828. Yr ydym yn cofio yn dda bod yn gwrandaw arno, ar y Sabbath Ebrill 27, 1828, yn pregethu ar yr achlysur o agoriad Capel Aber, nid yn mhell o Fangor. Ei destyn yno, drwy y dydd, oedd 2 Chron. vi. 18. "Ai gwir yw, y preswylia Duw gydâ dyn ar y ddaear? Wele'r nefoedd, a nefoedd y nefoedd, ni allant dy amgyffred; pa faint llai y dichon y tŷ hwn a adeiledais I?" Yr oedd rhywbeth mawreddig ac effeithiol iawn yn y pregethau hyny, ac y mae yn resyn mawr os ydynt, fel yr ydym braidd yn ofni, wedi myned ar ddifancoll hollol. Gan fod y pregethau hyn, fel y traddodwyd hwynt mewn lleoedd ereill, wedi effeithio cryn lawer ar feddwl ein hen gyfaill y Parch. Griffith Hughes, Edeyrn, ni a adawn iddo ef gael traethu ei adgof am danynt; ac fel y canlyn y mae efe yn ysgrifenu :

"Yr ydwyf yn cofio gan Bregethwr y Bobl dair o wahanol bregethau ar 2 Chron. vi. 18. Ai gwir yw y preswylia Duw gydâ dyn ar y ddaear? &c.' Y gyntaf oedd, ar ei Breswyliad dan y ddeddf, a'r arddangosiad o hyny,—yn ol meddwl uniongyrchol y testyn. Yr ail, ar ei Breswyliad yn y cnawd, yn mherson ei anwyl Fab. A'r drydedd, ar ei Breswyliad trwy ei Ysbryd gyda'i bobl dan yr efengyl. Gallaf ddywedyd mai dechreuad gofidiau fu y bregeth ddiweddaf yma i mi, canys dyna a gynhyrfodd fy meddwl gyntaf erioed at fyned fy hunan i bregethu, pa un bynnag ai da ai drwg oedd hyny. Dywedai mai un arwydd fod yr Arglwydd yn bwriadu preswylio mewn gwlad ydoedd, ei fod yn cyfodi ac yn donio dynion i bregethu yr efengyl, ac yn cadw rhyw amddiffyniad arnynt yn y cyflawniad o'u gweinidogaeth fawr. Gwaeddai yn ddifrifol,— Gweddiwch, bobl, na weler y wlad yma byth wedi myned heb yr un bachgen o'i mewn, â themtasiwn ar ei galon am bregethu yr efengyl i bechaduriaid: pe felly, byddai yn argoel peryglus fod Duw am eich rhoddi i fynu.' Effeithiodd y sylw hwn yn ddirfawr arnaf. Byddwn yn arfer, cyn hyny, cynghori ychydig yn yr Ysgol Sabbothol, ac yn y Cyfarfodydd Eglwysig, a'r cyffelyb; ond ni feddyliais oll am bregethu hyd y pryd hwnw. Methais gysgu nemawr y noson hono: a hyny nid oddiar yr ystyriaeth o berygl fy nghydbechaduriaid, nac ychwaith oddiar awydd myned yn bregethwr, ond, yn hytrach, oherwydd pryder ac ofn, heb wybod pa beth i'w wneyd. Cedwais hyny oddiwrth bob dyn am un wythnos, a dim yn hwy; ac, yn mhen tri mis, mi a ddechreuais ar y gorchwyl pwysig ac ofnadwy