Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/192

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

heb barotoi dim ato; ac nid rhyfedd felly fy mod eto mor ddiffygiol. Byddai yn ddifyrwch mawr gan yr hen frawd, ar hyd ei oes, pan y dygwyddai rhywbeth a roddai achlysur iddo, adrodd hyn: a honai yn aml ryw oruchafiaeth arnaf o'r plegyd, pan fyddai rhyw ddadl gyfeillgar rhyngom."

Yr oedd ei boblogrwydd erbyn hyn y fath, yn enwedig yn Sir Gaernarfon, fel nad oedd yn bosibl braidd meddwl am gyfarfod pregethu mewn unrhyw gymmydogaeth heb ei gael ef i gymmeryd rhan arbenig ynddo, a dirfawr a fyddai y siomedigaeth os elid heibio iddo neu os nacai gydsynio. Yr ydym yn cofio yn dda am dano yn pregethu yn olaf, y nos ddiweddaf, mewn Cymdeithasfa yn Mangor, yr hon a gynhelid Mehefin 4, 5, 1828. Yr oedd y pregethu mewn lle a elwid y pryd hyny "Yr Ardd fawr," yn nghanol y dref, ac yr oedd yr holl dref a'r cymmydogaethau wedi cyrchu yno. Ei destyn ydoedd, Caniad Solomon iv. 8. Nid ydym yn cofio rhyw lawer o'r bregeth, ac yr ydym braidd yn tybied fod ynddi gryn lawer o ryw fath o ysbrydoli, a annghymmeradwyasid ganddo ef ei hunan, mewn blynyddoedd diweddarach: ond, pa fodd bynnag am hyny, yr oedd y dylanwad a'r effeithiau ar y gynnulleidfa fawr yn rhyw beth tra gogoneddus. Yr oedd dystawrwydd yr hwyr, yn nghanol y dref, ar noswaith hyfryd yn nechreu yr haf, yn nodedig o fanteisiol iddo; ac yr oedd eglurder a nerth a phereidd-dra ei lais, y fath nes tynu sylw pawb at ei bethau; a rhwng y pethau a'r llais, a rhyw beth mwy na dynol oedd yn dylanwadu, yr oedd yno mewn gwirionedd gyfarfod rhyfedd iawn. Effeithiodd y Gymdeithasfa hono, ac yn arbenig y bregeth hono, yn ddirfawr er cynnydd achos crefydd yn mhlith y Methodistiaid yn Mangor, a daeth enw a chymeriad Mr. John Jones fel pregethwr yn y canlyniad yn adnabyddus i gannoedd a miloedd tu allan i'w Gyfundeb ei hunan—yn mhlith Eglwyswyr yn gystal a'r amrywiol enwadau yn mysg yr Ymneillduwyr.

Yn mhen ychydig ddyddiau, Mehefin 17, 18, yr ydym yn ei gael yn Nghymdeithasfa y Bala, lle y pregethodd gyda nerth mawr, y pryd, nawn cyntaf o flaen Mr. Thomas Jones, Caerfyrddin, oddiar Psalm i. 5, 6. Dyma yr ail dro iddo yn y Bala. Yr oedd Mr. Evan Griffiths, Meifod, a Mr. Lloyd, Beaumaris, yn pregethu dranoeth am chwech; Mr. Ebenezer Richard a Mr. Elias am ddeg; Mr. Rees a Mr. Evans, Llwynffortun, am ddau; a Mr. James Hughes, Lleyn, a Mr. Parry o