Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/193

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gaer, yn yr hwyr. Yn y Gymdeithasfa hon y neillduwyd Mr. Foulk Evans, Mr. Hugh Hughes, Abergele, a brodyr ereill i holl waith y weinidogaeth. Dychwelodd Mr. John Jones o'r Bala y tro hwn dan argraffiadau dwysion iawn oddiwrth bregeth Mr. Elias. Yr oedd ei lef, yn mynychu rhai geiriau yn ei destyn, "Os bu i chwi ei glywed ef" yn parhau yn ei glustiau am wythnosau, ac yr oedd yn eiddigeddu ynddo na buasai yn gallu ei hunan bregethu gyda'r symledd a'r nerth a ganfyddai ynddo ef. Sylwai y gallasid meddwl wrth ei wrandaw nad oedd dim haws na phregethu. "Dau ben syml," meddai, "oedd ganddo yn ei bregeth: Nad ydyw gwir Gristionogion fel ereill,' ac Mai dysgu Gallasai un dibrofiad dybied ond yr oeddwn i yn teimlo Crist sydd yn gwneyd y gwahaniaeth.' nad oedd dim haws na phregethu felly; mai y peth anhawddaf yn y byd ydoedd. Yr oedd y bregeth i gyd yn y testyn, ond yr oedd yn rhaid cael Elias i'w gweled hi."

Yr ydym yn ei gofio yn dda yn Mangor Sabboth Mehefin 29, a Medi 22, y flwyddyn hon, ond rhaid i ni beidio ymdroi gyda phob oedfa neillduol onide ni a awn i ormod meithder o lawer. Yn yr Hydref y flwyddyn hon yr ymwelodd am y waith gyntaf â Llundain. Yr oedd ceisiadau taer oddiyno ar iddo ddyfod atynt er ys dwy neu dair blynedd cyn hyny. Yr oedd efe, pa fodd bynnag, yn teimlo anmharodrwydd mawr i fyned yno oblegyd ei ddiffyg gwybodaeth o'r iaith Saesonaeg, ac, yn enwedig, oblegyd nad oedd eto wedi ei neillduo i holl waith y weinidogaeth. Yr oeddent hwy, er hyny, yn parhau i geisio, ac yn sicrhau iddo na chai, hyd y gallent hwy, fod dan un anfantais fwy oblegyd ei ddiffyg yn y Saesonaeg nag a deimlid ganddo yn Liverpool neu Manchester, neu leoedd cyffelyb; ac am y llall, nad oeddent yn gofalu cymmaint am hyny, os gallent ei gael fel yr ydoedd, gan fod y brodyr Mr. John Lewis a Mr. William Williams, heblaw Mr. James Hughes, ganddynt yno yn trigiannu, ac wedi eu galw i'r holl waith. Llwyddasant, trwy Mr. Elias, i gael ganddo addaw: ac yn Nghymdeithasfa Caernarvon, Medi 17, 18, yn ol y drefn y pryd hyny, fe roddwyd awdurdodiad iddo. Yr oedd y Sabbath, Hydref 5, 1828, yn Beaumaris; ac y mae cof da genym fod lliaws o bobl Bangor wedi myned yno i wrandaw arno, am fod y gair wedi myned allan ei fod yn cychwyn i Lundain, yr hyn oedd y pryd hyny yn beth a olygid yn fawr a phwysig iawn. Drannoeth, aeth gyda'r Steamer o Beaumaris i Liverpool. Y nos Lun, Hydref 6, yr oedd Cyfarfod Gweddio Cenhadol