Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/194

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn Bedford Street. Dechreuwyd y cyfarfod gan Mr. John Jones trwy ddarllen Esaiah lv. a gweddio. Yna traddodwyd cyfarchiad rhagorol gan Mr. Elias, yr hwn oedd yn Liverpool ar y pryd, ar natur gweddi, a'r angenrheidrwydd am, a'r calondid sydd genym i weddio am lwyddiant yr Efengyl, a therfynodd y cyfarfod trwy weddio ei hunan. Y nos Fawrth, yn Rose Place, dechreuwyd yr oedfa gan Mr. Elias, a gweinyddwyd ganddo yr ordinhad o Fedydd. Yna pregethodd Mr. John Jones ar Psalm li. 12, gydag effeithiau nerthol iawn—gwaeddi a gorfoleddu mawr drwy y Capel. Aeth rhagddo oddiyno tua Llundain erbyn y Sabbath, Hydref 12. Pregethodd, yn ol y drefn y pryd hyny, dair gwaith yn Jewin Crescent y Sabbath hwnw, ac felly yr holl Sabbathau canlynol tra bu yno. Ei destynau y Sabbath cyntaf oeddent, yn y boreu Rhuf. xii. 11; yn y prydnawn, Psalm 1. 15; ac yn yr hwyr, Ezec. xxxiii. 32. Cafodd oedfa hynod iawn yno yn yr hwyr hwnw. Arosodd yn Llundain y tro hwnw am naw Sabbath, gan bregethu bob tro gyda nerth mawr. Pregethodd yno bedair a deugain o weithiau y pryd hyny. Pregethodd ei bregeth ymadawol yn Jewin Crescent, nos Lun, Rhagfyr 8, ar Diar. xix. 20, ac yr oedd ei weinidogaeth yn hynod o dderbyniol ac effeithiol. Nid oedd yno ond un capel y pryd hyny ac yr oedd yn cael ei lanw—bob congl o hono—bob tro. Byddai y tyndra yno ar y nos Sabboth yn anoddefol. Yr oedd yn aml iawn yn pregethu yn faith iawn, yn gymmaint felly nes y byddai teuluoedd yn cael eu taflu i gryn annghyfleusdra; a'r merched oeddent mewn gwasanaeth, rai o honynt bellder mawr oddi wrth y Capel, yn gorfod rhedeg yr holl ffordd, os na chymmerent gerbyd, er mwyn bod adref mewn pryd. Clywsom un chwaer yn dywedyd y byddai hi yn gorfod cabio bob Sabbath tra yr oedd efe yno; ond dywedai hefyd, y buasai yn ddigon boddlawn i wneyd hyny trwy'r flwyddyn pe cawsai wrando arno ef. Y bregeth y sonid mwyaf am dani yn Llundain, y tro hwn, oedd un a draddodwyd ganddo ar fwrdd llong ar yr Afon, y nos Fercher, Hydref 15. Ei destyn ydoedd Dat. xxii. 1. Nid rhyw lawer a allasom ni gael o adgofion o'i bregethau, ond datganiad cyffredinol gan bawb ag oeddent yn ei gofio y pryd hyny o ryw syndod aruthrol at ei lais peraidd soniarus, ei iaith goeth brydferth, a'r ffrwd o hyawdledd byw a ddylifai dros ei wefusau. Ennillwyd amryw trwy ei weinidogaeth y pryd hyny at grefydd, ac y mae rhai o honynt yn aros hyd y dydd hwn. Daeth i gyfarfyddiad yn Llundain ar yr adeg hon, ac am y tro cyntaf erioed, â rhyw rai yn tueddu at, os nad yn pro-