Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/196

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

feydd ardderchog ac yn anadlu awyr iachus mynyddoedd Arfon, a chael ei wraig a'i blant bychain yn iach, ac wedi bod mor gysurus ag yr oedd yn bosibl iddynt fod, dan yr amgylchiadau, yn ystod ei absennoldeb hir oddiwrthynt. Yn ddioed wedi ei ddychweliad adref, ar ol gorphwys ond un Sabbath, fe ymroddodd â'i holl egni i wasanaethu yr achos mawr, yn neillduol yn ei Sir ei hunan. Nid ydym yn cael ei fod wedi bod am gymmaint ag un Sabbath allan o'i Sir am hanner blwyddyn yn olynol ar ol ei ddychweliad o Lundain. Ac yr oedd y difrifoldeb a'r taerni a amlygid yn awr yn ei weinidogaeth, gyda'r elfen gyfeiriadol oedd erbyn hyn yn fwy arbenig nag erioed ynddi, yn peri fod dylanwadau nerthol gydag ef braidd yn mhob man. Yr ydym yn cofio yn dda am dano yn Mangor ryw nos Sadwrn a'r Sabbath canlynol, yn ystod y tymhor y cyfeiriwn ato, Ebrill 28 a 29, 1829. Yr oedd rhyw beth hynod iawn yn y bregeth nos Sadwrn, ar Luc xxiii. 34, ac felly drachefn, nos Sabbath, ar Ioan iii. 3. Yr oedd yr un peth yn arbenig mewn pregeth o'i eiddo yn Nghymdeithasfa flynyddol Bangor, Mai 26, 27. Yr oedd yn pregethu yno am ddau ar y gloch, o flaen Mr. James Hughes, Lleyn. Ei destyn oedd 1 Thes. v. 19. Yr oedd yn amlwg iawn fod yr argyhoeddiad yn dechreu meddiannu ei feddwl ef am yr angenrheidrwydd o osod gwedd fwy cyfeiriadol ar y pregethu nag oedd wedi bod hyd y pryd hyny yn gyffredin yn ein gwlad; ac er fod y tro hwnw yn cael ei deimlo ganddo ef ei hunan, a chan gorph y gynnulleidfa, fe allai, hefyd, yn hytrach yn galed a thrymaidd ac aneffeithiol, eto fe fu yn adeg cychwyniad meddwl newydd am berthynas yr efengyl a'i gwrandawwyr, i aml un oedd yno yn bresennol, ac yn ddechreuad cyfnod newydd ar y pregethu yn Sir Gaernarfon. Nid oedd nemawr, fe ddichon, ar y pryd yn tybied hyny, ac yr ydym yn sicr nad oedd y peth eto yn meddwl Mr. John Jones ei hunan wedi ymffurfio fel y gwnaeth ar ol hyny: ond yr oedd yr angenrheidrwydd am ryw agweddiad newydd ar y weinidogaeth yn cael ei deimlo, a'i feddwl ei hunan, a meddyliau eraill drwyddo, yn dechreu ymbalfalu am y modd goreu i gyfarfod yr angenrheidrwydd hwnw, ac i gyflawni yr hyn a deimlid oedd i gryn raddau yn ddiffygiol.

Nid oedd Mr. John Jones eto wedi ei alw a'i neillduo i holl waith y weinidogaeth, ac yr oedd hyny yn flinder mawr nid yn unig i'w gyfeillion neillduol ond i'r cynulleidfaoedd yn gyffredinol trwy Sir Gaernarfon. Yr oedd yn fwy poblogaidd o lawer na neb oedd yn y Sir fel