Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/197

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pregethwr,—yr oedd ei gymeriad crefyddol mor uchel a diargyhoedd,—yr oedd ei holl ymddygiadau mor deilwng i urddas y weinidogaethi fawr, ac yr oedd ei ymroad i lafur gyda'r achos yn ei holl ranau mor adnabyddus, fel yr oedd teimlad dwfn a chryf iawn trwy yr holl Sir oblegyd yr oediad hir, yn ol syniad y bobl oll, a fuasai gyda golwg ar hyny. Yr oedd y teimlad yn fwy oblegyd ei fod wedi cael, er ys dwy flynedd bellach, fwy na digon, yn ol yr arferiad gyffredin y pryd hyny, o eglwysi y Sir, trwy eu cynnrychiolwyr yn y Cyfarfod Misol, yn ei ddewis ef fel un i'w ordeinio. Pe gweithredasid yn ol y dewisiad hwnw, fe fuasai wedi ei neillduo yn Nghymdeithasfa y Bala, yn 1827, yr un pryd ag yr ordeiniwyd Mr. Henry Rees a Mr. John Peters. Ond yr oedd yn y Cyfarfod Misol rai yn benderfynol yn erbyn hyny, ac yn dadleu yn gryf y byddai yn afreoleidd-dra nad oedd erioed wedi cymmeryd lle yn y Cyfundeb—nad oedd neb i'w ordeinio os na byddai wedi bod yn aelod o'r Gymdeithasfa o leiaf am bum' mlynedd, ac nad oedd John Jones wedi bod ond ychydig gyda hanner hyny, ac yr arweiniai tori ar y Rheol i ganlyniadau mwy niweidiol nag a allent hwy ddychymygu. Dadleuai y lleill fod y brodyr hyny yn esbonio y Rheol yn gyfeiliornus, ac mai ei meddwl ydoedd, fod yn angenrheidiol cael prawf o un fel pregethwr am bum' mlynedd cyn ei ordeinio. Yr oeddent hwythau drachefn yn dadleu mai y Rheol oedd, nad oedd "i neb gael ei ddewis i weini yr ordinhadau heb i'r corff gael prawf o hono, ei weinidogaeth, a'i fucheddiad, o leiaf am bum' mlynedd," ac nad oedd modd i'r corff, fel y cyfryw, gael prawf o un, nes y byddai wedi ei dderbyn yn aelod o'r Gymdeithasfa, ac mai felly yr oedd y Cyfundeb wedi gweithredu o'r dechreuad; ac y dylid esbonio y Rheol. yn ol yr ymarferiad. Atebwyd hwynt, nad oedd un reol heb eithriadau iddi; ac hyd yn nod gyda golwg ar hyn, fod y Cyfundeb wedi gwneuthur eithriad o'r dechreuad,—fod Mr. Charles, Caerfyrddin, yn yr ordeiniad cyntaf a gymmerasai le yn y Deheudir, wedi ei neillduo (i'r holl waith pan nad ydoedd wedi bod yn pregethu ond am tua thair blynedd; a bod yn amlwg iawn felly nad oedd dim afreolaidd yn ngwaith yr eglwysi yn galw am ordeinio Mr. John Jones. Dadleuai yr ochr arall drachefn, nad oedd yr esiampl oddiwrth Mr. Charles mewn un modd yn ateb y dyben, nac yn gyfaddas i'r achos dan sylw, oblegyd fod yn gwbl hysbys ei fod ef, cyn iddo ddechreu pregethu erioed, yn un o'r gwŷr blaenaf yn y Cymdeithasfüoedd yn y Deheudir.