Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/198

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr oedd yr ymryson yn parhau yn annedwydd, a rhai geiriau caledion iawn yn cael eu dywedyd o'r ddau tu. Edliwid yn arbenig i rai oeddent yn gwrthwynebu mai hwynt hwy oeddent wedi bod yn esgeulus, ac onidê y derbyniasid ef yn gynt yn aelod o'r Gymdeithasfa; ac mai annheg oedd cymmeryd yr hyn oedd fai arnynt eu hunain yn rheswm dros beido gwneuthur cyfiawnder âg ef, ac â'r wlad yn gyffredinol y pryd hwnw. Dywedodd y lleill y câi y Gymanfa benderfynu y pwnc. Ond pan welodd cyfeillion Mr. John Jones hyny, a chan ofni y byddai yno drachefn ryw rai yn gwrthwynebu, a rhag gwneuthur dim a allai ymddangos yn afreolaidd ac felly ei osod ef mewn blynyddoedd dyfodol yn agored i neb allu taflu dim o'r fath ato, penderfynasant, yn gwbl groes i'w teimladau eu hunain ac i deimladau y frawdoliaeth yn gyffredin yn y Sir, beidio gwasgu am ei ordeiniad hyd nes y byddai i amser symmud ymaith yr wrthddadl a ddygasid yn erbyn hyny. Yn ganlynol ni soniwyd gair am hyny yn Nghyfarfod Misol y Sir hyd ddiwedd y flwyddyn 1828, neu ddechreu 1829, pan y dygwyd y cwestiwn am alw rhyw rai o'r newydd at yr holl waith drachefn dan sylw. Teimlid yn gyffredinol fod angenrheidrwydd hollol am hyny; nad oedd yn yr holl Sir ond chwech o weinidogion; fod yr eglwysi yn cael cam mawr, trwy gael eu hamddifadu o weinyddiad cyson yr Ordinhadau o Fedydd a Swpper yr Arglwydd; heblaw fod rhai brodyr, nodedig o gymhwys i'r gwaith, yn cael eu hattal oddiwrtho, a'r eglwysi yn cael colled fawr oblegyd hyny. Mynai yr un rhai ag oeddent wedi bod ddwy flynedd cyn hyny mor gryf yn erbyn Mr. John Jones ddyfod a'r un wrthddadl yn mlaen y pryd hwn hefyd, gan na byddai yn bum' mlynedd, er pan y derbyniasid ef yn aelod o'r Gymdeithasfa, hyd y Gymmanfa yn Mhwllheli, y Medi canlynol, a bod yr ordeiniad am y flwyddyn i gymmeryd lle yn y Bala yn Mehefin. Yr oedd un hen frawd yn arbenig yn dadleu felly. Ond fe droes y Blaenoriaid arno fel un gŵr, yn neillduol Mr. John Robert Jones, Bangor, a Mr. Robert Roberts, Blaen-y-cae, Llanddeiniolen, nes y gwelodd mai y peth doethaf iddo oedd peidio gwrthwynebu yn hwy: ac felly fe gyflwynwyd Mr. John Jones i sylw y Gymdeithasfa yn Ninbych, Chwefror 26, 27, 28, 1829, fel un a ddewisasid yn unfrydol gan Gyfarfod Misol Sir Gaernarfon i'w alw i'r holl waith. Yn y Gymdeithasfa hon yr oedd. Mr. Elias, Mr. Lloyd, Beaumaris, a Mr. Cadwaladr Williams, o Sir Fon; Mr. John Jones, Tremadog, a Mr. Daniel Jones, Llandegai, o