Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/199

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Sir Gaernarfon; Mr. John Roberts, Llangwm, Mr. Richard Jones o'r Wern, Mr. Robert Griffith, Dolgellau, a Mr. John Peters, Bala, o Sir Feirionydd; Mr. John Parry, Caer, dros Sir Flint; a Mr. John Hughes, o Sir Drefaldwyn. Bu yno gryn ymdrafod yn nghylch achos y brodyr a gynnygid gan yr amrywiol Siroedd i'w hordeinio; ond y diwedd fu cymmeradwyo dewisiad y cwbl, a Mr. John Jones yn eu plith, i'w neillduo yn y Bala, yr haf canlynol. Ac felly yn y Gymdeithasfa a gynnaliwyd yno, Mehefin 17, 18, 1829, fe'i neillduwyd ef, gyda phump o frodyr ereill,—Mr. Hughes, Wrexham, Mr. John Charles, Gwalchmai, Mr. William Hughes, Tabernacl, Mr. D. Morgan, Trallwm, a Mr. John Hughes, Llangollen, i'r holl waith. Nid ydym yn hollol sicr, ond yr ydym yn tybied mai Mr. Michael Roberts oedd y pryd hyny yn traethu ar Natur Eglwys; Mr. Lloyd, Beaumaris, pa fodd bynnag, oedd yn darllen y rhanau arferol o'r Gair, ac yn gweddio; Mr. Thomas Richard yn gofyn yr holiadau arferol; a Mr. Elias yn rhoddi y cynghor. Terfynwyd trwy weddi gan Mr. Richard Davies o Gaio. Yr oedd Mr. John Jones yn pregethu y nos olaf y pryd hyn yn y Bala, o flaen Mr. Hughes, Wrexham. Ei destyn ydoedd Psalm xcvii. 1, 2. Cafodd ryw hwyl annghyffredin wrth bregethu y tro hwnw. Ni bu Mr. Hughes erioed yn y fath deimladau yn cyfodi i fynu i gynnyg pregethu ar ol neb. Ei eiriau ef ei hunan, wrth sôn am y tro oeddent, "Fe fuasai yn ddigalon i Mr. Elias geisio pregethu ar ei ol." Fe gafodd Mr. Hughes, pa fodd bynnag, dro esmwyth a hyfryd iawn, gyda graddau helaeth o eneiniad ar yr oedfa hyd y diwedd. Fe ddychwelodd Mr. John Jones o'r Gymdeithasfa hon gyda phenderfyniad newydd i ymroddiad llwyrach nag erioed i'r gwaith mawr yr oedd yn awr wedi ei neillduo i bob rhan o hono; a chan offrwm gweddïau ac erfyniau at berchen y gwaith am ei nerthu i barhau yn ffyddlawn hyd y diwedd yn ei wasanaeth, a bendithio ei lafur er achubiaeth pechaduriaid ac er adeiladaeth yr eglwys.