Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/20

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wedi ei eni a'i fagu ynddo. Pan y cofir y dylanwad sydd gan gymeriad ac ymddygiadau rhieni yn gyffredinol ar gymeriad ac ymddygiadau eu plant, a'r dylanwad arbenig oedd gan y rhieni hyn yn neillduol ar gymeriad gwrthddrych ein Cofiant presennol, y mae yn ddiammeu genym nad annerbyniol gan y darllenydd, yn arweiniol i'w hanes ef, fydd cael byr-grybwylliad am danynt hwy, er mantais iddo i gyrhaedd rhyw fesur o gydnabyddiaeth â'r rhai yr ymddiriedwyd iddynt gyntaf ddysgyblu y meddwl hwnw a ddaeth wedi hyny mor alluog ac enwog a defnyddiol yn ei oes.

Ei dad, John Jones, ydoedd fab ieuangaf John William Lloyd, Tan-y-Castell, yr hwn oedd yntau yn fab hynaf i William Lloyd, Gorddunant, Dolyddelen. Mam ei dad oedd Catherine, merch ieuengaf William Pritchard ac Angharad James, Parlwr, Penamman, Dolyddelen. Fe anwyd ei dad yn y flwyddyn 1759. O ran ei gorff yr oedd yn dal a Huniaidd, yn nodedig o gryf a bywiog, ac yn anarferol o hardd ei wynebpryd. Yr oedd o alluoedd naturiol pell uwchlaw y cyffredin, ac yr oedd y galluoedd hyny wedi eu hawchlymu trwy ymarferiad gwastadol gyda'r naill beth neu y llall, nes peri gwahaniaeth amlwg rhyngddo a'i holl gymmydogion. Yr ydoedd, yn enwedig, yn hynod o gelfydd yn mhob gwaith llaw, yn gymaint felly, fel nad oedd odid orchwyl yn ei gyrhaedd nad oedd agos yn meddiannu meistrolaeth crefftwr hollol arno, megis mewn gwneuthur offerynau trin tir; saerniaeth maen a choed, a phob peth angenrheidiol at adeiladu tŷ, a gweithio holl ddodrefn tŷ, ïe, hyd yn nod dillad iddo ei hunan a'r plant. Yr oedd bywiogrwydd ei feddwl y fath fel nas gallai fod byth yn segur. Wedi gorphen gorchwylion cyffredin y dydd byddai ganddo bob amser ryw beth i weithio arno â'i law, neu ryw lyfr i'w ddarllen. Prin y gallai aros am gymaint a phum' mynyd yn ei dŷ, i ymddiddan â chyfaill, heb wneuthur rhyw orchwyl a'i ddwylaw, a chynnal y gyfeillach yn fywiog yr un pryd. Ond pan ddechreuai dwymno mewn ymddiddan am grefydd, oblegyd hyny bob amser oedd ei hoff destyn, safai am ychydig, gan edrych yn myw llygad ei gyfaill, fel wedi ei lyngcu gan y mater fyddai dan ei sylw, ac fel yn annghofio gwaith ei law. Yn fuan, pa fodd bynnag, ail ymaflai yn ei orchwyl, gan barhau yr un pryd i ddal i fynu yr ymddiddan gyda bywiogrwydd a hyfrydwch mawr.

Yr ydoedd o'i febyd yn un o feddwl difrifol, ac yn dra dichlynaidd ei ymarweddiad, ac heb erioed gymeryd nemawr neu ddim difyrwch