Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/201

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iddo i gadarnhau y dewisiad, ac felly i'w osod ar dir ag y byddo hyny yn gwbl reolaidd. Dyma y drefn gyffredin yn awr yn Ngogledd Cymru, ac, os nad ydym yn camgymmeryd, yn lled gyffelyb y gweithredir hefyd yn y Deheudir. Ond yr oedd yn wahanol iawn pan y neillduwyd Mr. John Jones, ac am lawer o flynyddoedd ar ol hyny. Y pryd hyny yr oedd pregethwr yn cael ei dderbyn yn Aelod o'r Gymdeithasfa mewn cymhariaeth yn lled fuan, a rhyddid yn cael ei roddi iddo i anfon ei gyhoeddiadau, trwy gydsyniad ei Gyfarfod Misol, i ba barth bynnag o Gymru ag y byddai galwad arno i ymweled ag ef; a rhoddid iddo bob lle yn ddiwahaniaeth, yn ol ei ddawn, oddieithr yn Nghyfeisteddfod y Gymdeithasfa, ac yn ngweinyddiad yr Ordinhadau arwyddol, oedd yn eiddo i'r rhai oeddent wedi eu neillduo i'r holl waith. Ac yr oedd rhai o'r hen bregethwyr, yn enwedig Mr. Robert Jones, Rhoslan, yn parhau yn wyr blaenaf, hyd yn nod yn Nghyfeisteddfodydd ac yn nghynnulliadau llïosoach yr holl swyddogion, yn y Cymdeithasfaoedd. Ond, wedi eu derbyn fel hyn yn Aelodau o'r Gymdeithasfa, gallasent gael eu gadael ar hyd eu hoes heb eu symmud yn mlaen a'u galw i'r holl waith. Gadawwyd rhai pregethwyr galluog a thra derbyniol felly hyd eu marwolaeth: ac er eu bod yn anwyl yn mynwesau eu holl frodyr, ac yn nodedig o gymmeradwy gan y wlad yn gyffredinol, a rhai o honynt wedi cael byw yn hir i lafurio, buant farw, yn y diwedd, a'u tymhor prawf fel gweinidogion heb derfynu nes i'w heinioes ddarfod. Yr ymofyniad mawr y pryd hyny, pan elid yn nghylch y gorchwyl hwn, yn y nifer amlaf o'r Siroedd, ydoedd, a oedd "angen chwanegiad rhai i weinyddu yr ordinhadau yn y Sir;" ac, yn ganlynol, pan y dygwyddai brawd o ddoniau llawer llai, ac heb fod yn pregethu, hwyrach, ond prin y nifer angenrheidiol o flynyddoedd i ddyfod i fynu â'r rheol, fod wedi ei sefydlu yn rhywle fel Cenhadwr Cartrefol, fe'i neillduid ef i'r holl waith, flynyddoedd, feallai, o flaen brodyr mewn amgylchiadau ereill, o ddoniau llawer uwch, a llawer mwy cymmeradwy gan y wlad yn gyffredinol, ac wedi bod flynyddoedd yn hwy yn y weinidogaeth. A oedd "angen" oedd cwestiwn yr hen dadau, ac nid a oedd rhyw rai yn eu plith wedi eu donio yn arbenig at y gwaith, a'r Sir a'r wlad yn gyffredinol yn cael colled, a hwythau fel gweinidogion Crist yn cael cam, trwy esgeuluso eu neillduo iddo. Yr oedd rhai Siroedd, er ys amryw flynyddoedd, wedi dechreu cymmeryd golwg wahanol ar yr achos, ac yn ysgogi at yr Ordeiniad oddiar