Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/202

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr olwg ar gymhwysderau gweinidogaethol arbenig, ac felly yn cymmeryd hawliau y pregethwr i ystyriaeth, yn gystal a, os nad yn hytrach na, yr hen gwestiwn am "angen" yn ol yr esboniad a roddid yn gyffredin arno. Gwnaeth Sir Drefaldwyn, ac yn neillduol y diweddar Barch. Robert Davies, Llanwyddelen, ran dda yn y cyfeiriad hwn. Galwyd yno, o bryd i bryd, amryw frodyr i'r holl waith oddiar yr ystyriaeth hon, y rhai, pe dygwyddasent fod yn preswylio mewn Siroedd ereill, y mae yn ddigon posibl na buasai rhai o honynt yn cael eu neillduo byth; ac y buasai blynyddoedd o oediad, gyda golwg ar y lleill, nid er mwyn cael mwy o sicrwydd o'u cymhwysderau hwy, ond i aros i angeu, neu rywbeth, beri" angen" am ychwanegiad at nifer y rhai oeddent wedi eu galw eisoes. Nid ydym yn ammeu am rai brodyr anwyl a nodedig o gymmeradwy, o rai Siroedd, a fuant farw heb eu neillduo, pe dygwyddasent fod yn aelodau o Gyfarfod Misol Sir Drefaldwyn, na buasent wedi eu dewis flynyddoedd cyn eu hangeu i'r holl waith, a'r eglwysi a'r gwledydd felly wedi cael mwy o'u gwasanaeth, a hwythau eu hunain, feallai, yn ymadael â'r byd gyda mwy o dawelwch, yn y sicrhâd ychwanegol a roddasid iddynt trwy hyny o gymmeradwyaeth eu brodyr o honynt. Yn y Sir y preswyliai Mr. John Jones ynddi, nid oedd, ar yr adeg y neilltuwyd ef, y syniad am ordeinio un yn unig oblegyd ei gymhwysderau arbenig prin wedi meddiannu meddwl neb; a oedd "angen" oedd bob amser yn penderfynu a feddylid am ryw un ai peidio; fel nad ydyw, ac ystyried yr amgylchiadau, mewn un modd yn hynod ei fod wedi ei adael cyhyd ond yn hytrach yn syndod pa fodd y dewiswyd ef mor fuan.

Wedi ei alw at y rhanau hyn o'r gwaith, fe ymdeimlodd ar unwaith â'i gyfrifoldeb, ac â'r rhwymedigaeth oedd arno i ymdrechu na chai yr Ordinhadau Sanctaidd ddim dioddef yn meddwl neb, oblegyd unrhyw ddiffyg o'i eiddo ef, yn y gweinyddiad o honynt. Yr oedd yn synio yn gryf, ac yn arfer dywedyd yn fynych, fod ar law y gweinidog wneuthur llawer iawn tuag at ddyrchafu neu ddarostwng pethau dwyfol yn meddyliau y bobl; ac nid oedd dim yr arswydai fwy rhagddo, gyda golwg arno ef ei hunan yn y swydd yr oedd ynddi, na bod yn achlysur i fawredd a gogoniant gwasanaeth eysegr y Goruchaf syrthio yn bethau cyffredin a dibwys, yn meddwl neb, trwy unrhyw esgeulusiad neu ddïofalwch ar ei du ef. A chan ddeall yn dda fod y cymhwysder cyntaf a phenaf i bob iawn-ymarferiad âg ordinhadau Duw yn ansawdd ac