Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/204

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

haddysgu yn fanwl yn egwyddorion yr efengyl; weithiau y pwys o'u llywodraethu yn ol y broffes a wnelid ar y pryd ar eu rhan; weithiau y pwys o roddi esiamplau da ger eu bron;-rhyw un gangen neu arall fyddai ganddo yn gyffredin dan sylw, gan draethu ar hono mor fanwl ac eglur ac effeithiol, nes y byddai, ni a dybygem, yn anmhosibl i'r rhieni ollwng byth dros gôf yr addysgiadau a'r annogaethau a gyflwynid ganddo ger eu bron ac a gymhellid ganddo arnynt. Ac, yn neillduol, yr oedd ei weddïau ar y fath achlysuron ar ran y plant a fedyddid, yn gystal ag ar ran eu rhïeni, yn gyfryw ag y teimlid braidd yn ddieithriad ei fod mewn gwirionedd wedi cael dyfodiad at Dduw yn eu hachos, ac y byddai yn anmhosibl i'r fendith gael ei gommedd.

Yn ngweinyddiad yr ordinhad arall, Swpper yr Arglwydd, yr oedd rhyw beth aunghydmharol ac annysgrifiadwy yn ei hynodi. Ymddangosai fel un yn cael ei lyngeu i fynu yn gyfan-gwbl gan ei bwnc, ac heb fod ganddo amcan at ddim ond tynu y bobl gydag ef ei hunan i gymundeb ffydd â Christ Iesu yn dioddef ac yn marw ya cu lle. Er y byddai y cymun bob tro yn niwedd y bregeth, a hono yn un faith iawn,―oblegyd ni byddai efe byth yn meddwl am gwtogi ar ei bregeth pa waith bynnag arall fyddai ganddo i fyned ato,-eto nid ymddangosai mewn un brys, eithr yn hytrach fel un yn teimlo nad oedd amser o un gwerth ond at addoliad a gwasanaeth Duw, ac felly âi rhagddo gyda'r gwaith yn gwbl hamddenol. Ymddangosai yn nodedig o feddylgar a difrifol. Byddai ei gyfarchiad arweiniol, yn y cyffredin, yn dra byr, ac yn benaf yn cyfeirio at yr agweddau a ofynir ar y rhai a nesäont at fwrdd yr Arglwydd yn gymmeradwy. Ond yma, drachefn, rhyw un peth yn arbenig fyddai ganddo dan sylw ar y pryd, megis ffydd neu edifeirwch neu gariad, &c. Yr oedd y weddi gyntaf yn hynod o afaelgar, ac yn y cyffredin yn dra effeithiol; ac, weithiau yn ymestyn yn faith iawn,-ambell dro braidd yn rhy faith-ac ystyried y gwaith fyddai yn ei dilyn. Wedi darfod cyssegru yr elfenau a chyfranogi ei hunan o honynt, pan yn eu rhoddi i'r blaenoriaid, dechreuai yn gyffredin draethu, yn y wedd neillduol a ddygwyddai fod ganddo ar y pryd yn ei feddwl, ar ddioddefiadau ac angeu y Gwaredwr; gan ddilyn, y tro hwnw, y wedd hono yn un llinyn, heb droi nag yma nac acw, hyd y diwedd; ac yn twymno yn ei ysbryd ac yn codi yn ei lais, a'r cymanwyr yn fynych, braidd bob tro, yn cael eu cyd-dwymno âg ef, nes y byddai yno waeddi a gorfoledd cyffredinol cyn y diwedd. Gwelsom