Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/205

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

beth felly laweroedd ar laweroedd o weithiau. Nis gallwn byth annghofio un nos Sabbath yn Mangor, yn lled fuan wedi agoriad y Capel presennol yno, y Tabernacl, ryw bryd yn nechreu yr haf, 1835. Yr oedd yr oedfa yn dechreu fel arferol am chwech. Yr oedd y bregeth yn terfynu tua hanner awr wedi wyth. Erbyn i'r gynnulleidfa ymsefydlu at y cymun yr oedd yn chwarter i naw ar y gloch. Yr oedd Mr. John Jones mewn hwyl annghyffredin y nos waith hono. Yr oedd lliaws wedi tori allan i waeddi yn ystod y bregeth. Ac o ddechreu y cymun yr oedd rhyw beth tyner ac esmwyth ac ystwyth iawn yn nheimladau pawb. Wedi iddo fyned o gwmpas gyda'r bara, dychwelodd i'r sedd fawr i gael y gwin. Wedi tywallt hwnw i'r cwppanau, cyn cychwyn drachefn at y gynnulleidfa, fe safodd wrth y bwrdd, ac a'r ddwy gwppan, un yn mhob llaw, fe waeddodd allan, yn y llais oedd mewn rhyw gywair arno mor anorchfygol,—"Welwch chwi, bobl? Y mae hi yn dechreu cochi." Yr ydym yn cofio yn dda fod y sylw yn treiddio fel trydan trwy y Capel. Yr oedd yno ugeiniau mewn mynyd wedi tori allan i wylo, lliaws mawr i waeddi, a phawb dan gynhyrfiad dirfawr. Yr oeddem ni ein hunain, yn teimlo fel pe buasai rhyw beth yn rhedeg i fynu i'n corph drwy wadnau ein traed. Yn mhen ychydig llonyddodd y cynhwrf, ac aeth yntau rhagddo, gan draethu ar y mater arbenig oedd ganddo y noswaith hono, "Gwerthfawr waed Crist," a hyny gyda hyawdledd a grym mawr. Yr oedd yn ddeng mynyd wedi deg pan yr oedd yn dechreu gweddio yn niwedd y cymun. Wedi ychydig eiriau, dywedodd, "Yn wir, Arglwydd, ni a fuasem yn diolch heno oni b'a'i ei bod hi wedi myned yn hwyr. Gogoniant am obaith gwlad na bydd ynddi hi yr un clock i ddyrysu yr addoliad; a gobaith natur a all ddal tragywyddoldeb heb flino yn dy wasanaeth," &c. Ar hyny, fe dorodd yn waeddi mawr drachefn trwy yr holl gynnulleidfa, a'i lais yntau uwchlaw pawb, a dyna lle y buont mewn hwyliau gorfoleddus, heb odid neb yn symud o'i le, hyd nes ydoedd yn agos i unarddeg ar y gloch. Yn y vestry, wedi y cyfarfod, yr oedd golwg ddifrifol iawn arno. Yr oedd pawb yn hollol ddistaw. O'r diwedd, fe dorodd e ei hunan ar y distawrwydd â'r sylw," Nid oes neb tebyg iddo ef, a oes? Nid oedd dim rhyfedd i'r hen Nannws oedd yn Nolyddelen ddweyd, Iesu anwyl, yr wyt ti yn well na nhw bod y gun.'" Yr oeddem ni yn cyd-gysgu âg ef y noswaith hono, neu yn hytrach y boreu drannoeth; ac nid oedd dim yn ein synu ni yn fwy na'r rhwyddineb a'r hwn yr oedd yn gallu disgyn o'r ucheledd y safai