Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/206

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

arno yn y pulpud ac wrth fwrdd yr Arglwydd i holi ac i ymofyn yn nghylch cynnwysiad rhyw lyfrau Saesonaeg y dygwyddem ni fod wedi eu darllen, ond yr oedd efe, oblegyd diffyg cydnabyddiaeth â'r iaith, yn ddieithr iddynt. Ond ychwaneg ar hyn eto.

Nid oedd y tro hwn yn Mangor, y cyfeiriasom yn awr ato, ond enghraifft deg o'r hyn a brofid yn fynych, er nad yn ddiau i'r un · graddau, ganddo ef ei hunan a chan y cymunwyr yn gyffredin, pan y byddai efe yn gweinyddu Swpper yr Arglwydd, am amryw o'r blynyddoedd cyntaf wedi ei Neillduad i'r holl waith. Yr oedd y fath fywiogrwydd ac yni a gwres yn ei ysbryd; y fath deimlad dwfn a dwys ac angerddol yn ei galon; y fath nerth ac amrywiaeth a phereidd-dra yn ei lais; a hyn oll, yn gysylltiedig â'r fath gyfoeth o'r meddyliau cryfaf, puraf, a mwyaf dyrchafedig,—yn amlwg yn ffrwyth ymroad cydwybodol a ffyddlawn a chyson i chwilio am y pethau cyfaddasaf i'w traethu, ar y fath achlysur, er arwain yr eglwys i "gymdeithas ei ddioddefiadau ef;"-fel nad ydoedd efe ei hunan yn ymddangos yn un lle yn fwy yn ei elfen, na phan wrth y bwrdd, yn nghanol ei frodyr a'i chwiorydd yn gwledda ar yr Aberth Hedd. Y mae yn eglur fod ei Ordeiniad yn cyfansoddi cyfnod newydd a phwysig iawn yn ei fywyd a'i ddefnyddioldeb, a'r flwyddyn y cymerodd hyny le yn un ag arbenigrwydd neillduol arni yn ei hanes; oblegyd yr effeithiau a gafodd hyny ar ei feddwl ef ei hunan gyda golwg ar ei grefydd bersonol, ac oblegyd y cylch newydd o efrydiaeth y tynwyd ef trwy hyny iddo, ac, yn neillduol, oblegyd y fantais ychwanegol oedd yn awr ganddo i wasanaethu yr achos mawr.

Nos Lun, Gorphenaf 20, y flwyddyn hon, 1829, yr oedd yn Nhrawsfynydd yn pregethu, ac yn cychwyn am daith i'r Deheudir, trwy ranau o Sir Aberteifi, Penfro, a Chaerfyrddin, a thua Chymmanfa Llangeitho yr hon a gynhelid Awst 6cd, a 7fed. Yr oedd yn pregethu y pryd hyny yn Llangeitho yn gyntaf am ddeg ar y gloch, o flaen Mr. Evans, Llwynffortun, a Mr. John Roberts, Llangwm. Am ddau, yr oedd Mr. Thomas Richard a Mr. Roberts, Amlwch, yn pregethu. Testyn Mr. John Jones y tro hwn ydoedd Daniel vii. 14; ac yr oedd arddeliad mawr ar ei weinidogaeth. Dyma y pryd y derbyniwyd Mr. Lewis Edwards, Dr. Edwards o'r Bala yn awr, yn Aelod o'r Gymdeithasfa. Ymddyddanwyd âg ef am ei Hanes crefyddol a'i Brofiad gan Mr. John Roberts, Llangwm; am ei olygiadau ar yr Athrawiaeth gan Mr. Evans,