Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/207

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Llwynffortun; ac am ei gymhelliadau at Waith y Weinidogaeth gan Mr. Roberts, Amlwch. Syrthiodd Mr. John Jones mewn hoffder mawr o hono wrth wrandaw ar yr ymddyddan hwnw. Yr oedd yr olwg ddeallgar oedd arno, symledd a phriodoldeb ei atebion, ac, yn arbenig, yr ysbryd gostyngedig a gwylaidd a ymddangosai ynddo, yn ddigon ar unwaith, heb un adnabyddiaeth flaenorol, i beri iddo benderfynu mai nid dyn cyffredin ydoedd. Clywsom ef fwy nag unwaith fel yn hanner ymffrostio ei fod ef yn un o'r rhai cyntaf i ragweled ac i ragfynegi mawredd Mr. Edwards. "Nid yw y Creawdwr mawr," meddai, "byth yn twyllo. 'Roes o erioed ben a llygaid a gwyneb fel yna i ffŵl." Aeth o Langeitho i Dregaron at yr hwyr. Prysurodd trwy Ledrod, Llanilar, y Borth, Machynlleth, Dolgelleu, a Thrawsfynydd, tua chartref. Yr oedd yn Nhrawsfynydd, ar ei ddychweliad, am ddeg o'r gloch ddydd Mercher, Awst 12fed, a chyrhaeddodd ei dŷ ei hunan, yn Nhalsarn, y noswaith hono. Yr oedd yn pregethu gyda nerth mawr bob oedfa yn y daith hon. "Da" ydyw ei air ef ei hunan am braidd bob un o honynt. Pregethodd, yn ystod y daith, un-ar-bymtheg a deugain o weithiau.

Dydd Sabbath, Medi 6, 1829, yr oedd yn Bettws-y-Coed y boreu, yn Nghapel Curig y prydnawn, ac yn Nolyddelen yr hwyr. Yr oedd yn gweinyddu yr ordinhad o Swpper yr Arglwydd yn y tri lle y Sabbath hwn; ac hyd y gallwn ni gael hanes, dyma y tro cyntaf iddo ef fod yn ei gweinyddu,—dyma y cyfeiriad cyntaf, beth bynnag, a wneir ganddo ef ei hunan at hyny. Ar ol y Sabbath hwn, aeth y nos Lun canlynol i Lanrwst; a rhagddo, y Mawrth a'r Mercher, tua Dinbych, lle yr oedd Cyfarfod Pregethu ddydd Iau, Medi 10, ar yr achlysur o agoriad y Capel presennol yno. Pregethodd yno y noswaith flaenorol ar Zech. i. 8; ac am ddau a chwech, ddiwrnod yr agoriad, ar 2 Chron. vi. 18. Yr oedd Mr. John Roberts, Llangwm, Mr. Parry, Caerlleon, Mr. Daniel Evans, Capel Drindod, a Dr. Stewart o Liverpool, gydag ef yn Ninbych. Drannoeth, ddydd Gwener, yr oedd yn pregethu drachefn am ddeg ar y gloch, ar agoriad Capel yn Cefn Meiriadog, Sir Ddinbych, ar ol Mr. Daniel Evans, Capel Drindod, ac yn prysuro oddiyno tua Chonwy, y noswaith hono.

Yr oedd ei waith yn awr wedi dyfod yn llawer mwy. Yr oedd yn cael ei alw agos bob Sabbath i weinyddu Swpper yr Arglwydd, a hyny yn gyffredin ddwy waith, ac yn fynych dair gwaith yr un Sabbath. Ond ni