Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/208

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pharai hyny iddo ef gwtogi dim ar y bregeth, nac arbed dim arno ei hunan wrth ei thraddodi. Can gynted ag y byddai un oedfa drosodd, yn gymmaint a'i fod bob amser ar y Sabbath yn pregethu dair gwaith, byddai yn llawn bryd prysuro at yr oedfa ganlynol, fel nad oedd o'r boreu hyd yr hwyr, ac weithiau hyd yn hwyr iawn, yn cael un mynyd braidd o orphwys. Ac yr oedd y cynnulleidfaoedd i raddau mawr fel ef ei hunan: oblegyd byddai ugeiniau a channoedd yn fynych yn ei ddilyn o'r naill Gapel i'r llall, yn aml agos ar eu cythlwng, ond yn annghofio pob peth yn yr hyfrydwch a fwynhaent yn gwrandaw arno ef. Yr oedd galwadau parhaus a chynnyddol arno hefyd yn awr i'r amrywiol Gymdeithasfaoedd, ac i Gyfarfodydd Pregethu, yn ei Sir ei hun, ac mewn Siroedd ereill, yn y Deheudir yn gystal a'r Gogledd; ac yntau yn garedig yn cydsynio â'r cyfryw alwadau, yn fynych yn ngwyneb llawer o anhawsderau, ac ysywaeth! am ychydig iawn o dâl. Ond yr oedd y cwbl yn gwneuthur ei lafur, yn y blynyddoedd hyn, ac o hyn hyd ddiwedd ei oes, yn fawr iawn.

Yr ydym yn cofio yn dda am dano, tua'r amser y daethom ato yn awr, mewn Cymdeithasfa yn Beaumaris, ar y dyddiau Mawrth a Mercher, Medi 29, 30, 1829. Yr oedd Mr. Daniel Evans, Capel Drindod, a Mr. William Morris, Cilgeran, yn pregethu, y prydnawn cyntaf, a Mr. John Williams, Llecheiddior, yn dechreu y cyfarfod. Am chwech boreu drannoeth, yr oedd Mr. Griffith Hughes, Edeyrn, yn gweddïo, a Mr. David Bowen, Llansaint, a Mr. David Meyler, Abergwaun, yn pregethu. Am ddeg, yr oedd Mr. Lloyd, Carnarvon, yn gweddïo, gyda rhyw afael a thaerni nas gallwn byth ei annghofio, a Mr. Michael Roberts a Mr. Evans, Llwynffortun, yn pregethu. Yn y prydnawn, am ddau, yr oedd Mr. David Meyler yn gweddio, a Mr. John Jones a Mr. Elias yn pregethu, a Mr. Evans yn pregethu rhyngddynt, yn y Saesonaeg. Testyn Mr. John Jones y pryd hyny, ydoedd, Esaiah XXX. 11. "Ciliwch o'r ffordd, eiliwch o'r llwybr; perwch i Sanct Israel beidio â ni." Yr oedd rhywbeth nodedig o afaelgar a chyfeiriadol ac argyhoeddiadol yn y bregeth hono. Ni chlywsom ddim neillduol am yr hyn a allai fod wedi cael ei wneuthur drwyddi; ond yr ydym yn cofio yn dda ein bod yn barnu ar y pryd, y byddai yn rhyfedd iawn, os parhai cymmaint ag un o'r miloedd oeddent yn gwrando, i rodio y "ffordd ddrwg," ar ol clywed y fath ddysgrifiad o honi. Buasai yn dda iawn genym allu cyfleu y bregeth yn gyflawn