Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/209

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ger bron ein darllenwyr, ond y mae hyny allan o'n cyrhaedd. Nid oes genym ond gobeithio fod yn mhlith ei ysgrifeniadau ryw gofnodau o honi, a gyhoeddir gyda'i bregethau ereill, fel prawf o'r cyfeiriad yr oedd ei feddwl yn awr yn gymmeryd, ac o'r arswyd oedd wedi dechreu ei feddiannu wrth weled fod ei lafur ef a'i frodyr mor aflwyddiannus; ac, felly, fel engraifft o'r wedd newydd oedd yn awr yn ymddangos ar ei weinidogaeth, ac a ddaeth yn fwy-fwy i'w hynodi o hyny hyd y diwedd. Ei Nodiadau oddiwrth y testyn oeddent :-1. "Fod dynolryw ar ffordd drwg. 2. Eu bod yn hoffi y ffordd ddrwg hono. 3. Fod yr Arglwydd o'i ras yn anfon ei weision i sefyll ar y ffordd ddrwg, i attal y fforddolion yn mlaen. 4. Llwyr ymroddiad y rhai a gynghorir i ymwrthod a'r cynghorion a roddir iddynt, ynnghyd a'u hiaith tuag at y gweision." Nis gallwn annghofio y difrifoldeb oedd yn ei wedd, a'r tosturi tyner oedd yn ei lais, a'r effeithiau nerthol a deimlid gan y dorf yn gyffredinol, pan y gwaeddai, ar ol dangos fel yr oedd Elias ar ffordd Ahab, a'r tri llanc ar ffordd Nebuchodonozor, &c. "Mae arnaf ofn, y mae yr Arglwydd yn gwybod, i ddyddiau wawrio ar Gymru, na fydd neb wedi ei adael yma i sefyll ar ffordd annuwiolion i geisio eu rhwystro i'w damnio eu hunain."

Y noswaith hono, noswaith Cymdeithasfa Beaumaris, yr oedd yn pregethu yn Mangor, ar Caniad Solomon ii. 14. Yr oedd y tro hwnw yn un o'r rhai mwyaf dedwydd braidd iddo ef ac i'r gynnulleidfa a allesid ddymuno. Nid oedd yno ddim cyffro a gwaeddi, ond yr oedd pawb wrth eu bodd. Nid oedd dim nodedig yn y bregeth fel cyfansoddiad. Yr oedd yn hollol ar yr hen ddull, ac yn rhaniadau ac îs-raniadau diddiwedd. Gan edrych ar y testyn fel cyfarchiad Crist i'w eglwys, nododd allan bedwar pen cyffredinol:-1. "Y gwrthddrych a annerchir: 'fy ngholommen.' 2. Y sefyllfa y dysgrifir hi ynddi : 'yn holltau y graig, yn lloches y grisiau.' 3. Yr alwad rasol a chysurus a gyfeirir ati: 'Gad i mi weled dy wyneb, gad i mi glywed dy lais. 4. Y rheswm a arferir ganddo er ei chymhell i gydsynio a'r alwad hon: canys dy lais sydd beraidd, a'th olwg yn hardd.'" Fe chwardda ambell un, feallai, wrth ganfod y fath raniad i ddechreu; ac fe chwarddai y cyfryw lawer mwy, pe rhoddem ger ei fron, yr hyn a allem o'r hyn a ddywedwyd ganddo ar y naill a'r lleill o'r penau uchod;-yn wir, fe chwarddai ef ei hunan yn galonog, mewn blynyddoedd diweddarach, pan adgofid iddo rai o'r hen bregethau hyn; ond,