Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/21

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn y chwareuon ofer, a'r ymrysonau gorchestol ynfyd, oeddent y dyddiau hyny mor gyffredin yn ei gymmydogaeth ef fel yn y rhan fwyaf o barthau Cymru. Ei ddifyrwch ef o'i ieuengctyd oedd rhyw fath o waith, fel y cadwyd ef trwy hyny, cyn i grefydd gydio yn ei feddwl, rhag rhedeg i'r unrhyw ormod rhysedd â'r nifer amlaf o'i gymmydogion. Yr oedd wedi priodi a dechreu magu plant cyn gwneuthur proffes gyhoeddus o grefydd. Yr oedd yr ychydig gyfeillion oeddent yn aelodau o'r gymdeithas eglwysig fechan oedd yn Nolyddelen y pryd hwnw, yn lled foreu ar yr achos Methodistaidd yn y gymmydogaeth, wedi dysgwyl llawer wrtho cyn iddo dòri trwodd i ymuno â hwy. Yn y dyddiau hyny yr oedd offeiriad duwiol ac effro, o'r enw Mr. Morgans, yn gwasanaethu yn mhlwyf Llanberis. Arferai lluoedd o'r plwyfydd cylchynol, ac o bellder mawr, gyrchu yno ar y Suliau i wrandaw arno. Yn mhlith ereill, byddai John Jones yn arfer myned yno am hir amser, yr holl bellder oedd iddo o Ddolyddelen, dros fynydd uchel ac anial, lle nad oedd ffordd, ac yn fynych trwy wlawogydd ac ystormydd y gauaf. Nid oedd eto wedi ymuno â'r eglwys a bwrw ei goelbren yn mhlith pobl yr Arglwydd. Ond yr oedd pethau crefydd yn gwreiddio yn ddwfn y pryd hwn yn ei feddwl, ac yn dylanwadu yn amlwg ar ei fuchedd gyffredin. O'r diwedd, fe droes ei wyneb i dŷ yr Arglwydd, a mawr oedd llawenydd y cyfeillion pan y gwelsant ef yn eu plith. Dywedai y diweddar Barch. John Williams, Dolyddelen, fel y canlyn am dano : "Ni chefais fy siomi yn neb erioed yn fwy yn dyfod i'r gymdeithas eglwysig nag yn John Jones, Tan y Castell. Yr oedd bob amser yn ddyn hynod o foesol a chall iawn, ac yn llawer mwy gwybodus na neb yn y plwyf, a byddai llawer o honom yn edrych arno braidd fel rhyw Pharisead hunan–gyfiawn. Nid oedd yn cyfeillachu llawer a neb, er ei fod yn hynod o rydd a serchog pan y ceid gafael arno. Yr oedd yn nodedig o ddeallus yn y Bibl, a byddai ganddo yn gyffredin feddyliau newydd iawn ar adnodau o hono, ac ar amrywiol bynciau crefydd. Yr oedd gyda hyny yn fanwl iawn, yn fwy felly na llawer o honom ni y crefyddwyr, yn ei ymddygiadau, ac yn dra gwyliadwrus ar ei eiriau. Llawer gwaith y buom yn ymddiddan a'n gilydd am dano, a dysgwyliasom lawer ac am hir amser wrtho i ymuno â ni, cyn iddo ddyfod atom. Yr oeddem, yr un pryd, braidd yn ofni ei weled yn dyfod, gan na wyddem pa fodd i ymddiddan âg ef, a rhag y byddai yn anhawdd i ni gyd–dynu âg ef. Ond er ein mawr syndod, pan ddaeth