Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/210

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wedi y cwbl, yr oeddent yn gwneyd eu gwaith yn ardderchog: ac yr ydym yn gwybod am rai a droisant i mewn i eglwys Dduw yn Mangor, a'u meddyliau wedi eu hennill, trwy y bregeth hono, i chwilio am ymguddfa " yn holltau y graig." Yr oedd yn bedyddio ar ol y bregeth, y noswaith hono, a dyna y tro cyntaf i ni ei glywed, os nad y tro cyntaf iddo ef fod, yn gweinyddu yr ordinhad o fedydd.

Yn yr Hydref canlynol, aeth, gan bregethu yn Ffestiniog, Tal-y-bont, y Parc, a'r Bala, tua Chymdeithasfa Dolgelleu, yr hon a gynnelid yno ar y 14eg a'r 15ed o'r mis. Yr oedd yn pregethu yno yn y boreu am ddeg, o flaen Mr. Morgan Howell. Ei destyn yno ydoedd 2 Chron. vi. 18. Bu o hyny hyd ddiwedd y flwyddyn heb fyned allan o gylch ei Gyfarfod Misol ei hunan, oddieithr un nos Sadwrn, Tachwedd 21ain, yn Llanrwst, a'r Sul canlynol yn y Rô, Tal-y-bont a Threfriw. Buasai yn dda genym pe gallasem ddodi ger bron ein darllenwyr yn fanwl hanes ei feddwl ef ei hunan y misoedd hyn, gan ein bod yn tybied yn lled gryf ei fod yn myned trwy gryn gyfnewidiad y pryd hwn, nid yn gymmaint yn ei olygiadau ar y gwirionedd, ag o ran y modd goreu i'w ddwyn i gyfarfyddiad â meddwl y byd. Ond nid oes genym ddefnyddiau at y fath hanes; a rhaid i ni foddloni yn unig ar yr hyn a allwn gasglu oddiwrth ein côf am y pregethau a draddodid ganddo yn y misoedd hyn, a rhyw awgrymiadau a deflid allan ganddo mewn ymddyddanion cyfeillgar, gyda golwg ar yr amser hwn, yn mhen rhai blynyddoedd ar ol hyn. Yr oedd yn teimlo yn ddwys wrth feddwl fod gweinidogaeth yr efengyl mor aflwyddiannus, a'r argraffiadau a wneid, dybygid, ar ei gwrandawwyr pan yn ei sŵn, yn diflanu mor fuan. Yr oedd yn teimlo ei hunan wedi cael siomedigaeth fawr yn ei gyd-wladwyr. Yn wir, yr oedd er ys rhai blynyddoedd bellach yn teimlo i raddau felly. Yr ydym yn cofio ei fod yn Mangor, ar y nos Sabbath, Medi 21, 1828, pan yn pregethu oddiar Ezeciel xxxiii. 82, "Wele di hefyd iddynt fel can cariad un hyfrydlais, ac yn canu yn dda: canys gwrandawant dy eiriau ond nis gwnant hwynt,”—yn rhoddi datganiad cyhoeddus a thra effeithiol i'r teimlad hwn. Cyfeiriai at Melanchthon, yn tybied, wedi iddo ei hunan weled gogoniant trefn yr efengyl, a'i chyfaddasder i gyfarfod angenion cyflwr pechadur, na byddai eisiau ond iddo ei chyflwyno felly ger bron y byd, er ennill pawb i wneuthur derbyniad o honi: ond yn gorfod cwyno wedi hyny, "Mi welais i fod yr hen Adda yn drech na Melanchthon ieuanc."