Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/211

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Felly finnau," meddai yntau, "er nad oes arnaf fi eisiau i chwi ganmol dim arnaf fi, ac nad wyf yn fy ystyried fy hunan yn werth i'm canmol gan anifail, eto mi dybiais mewn ambell oedfa, wrth ganfod y boddhad a amlygid gan y gynnulleidfa i'r gwirionedd, a'r teimladau cryfion a gynnyrchid trwy y traddodiad o hono, na byddai neb cyn hyn braidd yn y wlad yn ddigon hŷf a chaled a beiddgar, i wrthod plygu i Fab Duw, ac mor ddigyfrif o hono ei hunan a pharhau yn ngwasanaeth Satan a phechod. Ond, ysywaeth! nid oedd hyny ond breuddwyd gwag. Y mae gafael y cryf-arfog yn gadarnach nag y dychymygais i, ac fe wna wawd o'n doniau i gyd gyda'n gilydd oni chawn ni ein Duw yn ein plaid." Yr oedd yn dra naturiol iddo deimlo felly: a chan deimlo felly, yr oedd mor naturiol iddo ymofyn, —A oedd efe ei hunan, a'i frodyr, yn cyflwyno yr efengyl yn y fath fodd ger bron y byd, ag i roddi pob mantais iddi i sicrhau ei hamcan tuag ato? A'r penderfyniad y daeth efe yn dra chryf iddo yn ei feddwl ei hun, oedd, nad oedd yr efengyl wedi cael yr holl degwch a ddylasai gael oddiwrth ei gweinidogion yn gyffredin; ac, os nad oedd gormod o arbenigrwydd wedi ei osod ar rai gwirioneddau, fod rhai ereill wedi cael rhy ychydig o lawer o sylw, a rhai pwysig iawn, os nad yn cael eu gwadu, wedi eu hesgeusluso braidd yn hollol. Y gwirionedd mawr a gymmerai feddiant arbenig ar ei feddwl ef yn y misoedd y cyfeiriwn yn awr atynt, ac y rhoddid arbenigrwydd neillduol iddo yn ei weinidogaeth, oedd, "Gwaith yr Ysbryd Glan ar yr eglwys, er ei chymhwyso hithau i'w gwaith, angenrheidiol tuag at iachawdwriaeth y byd." Yr oedd yn pregethu llawer iawn y pryd hwn ar y testynau canlynol:2 Chron. vi. 18; Ioan iii. 3; Ephesiaid iv. 15; 2 Cor. v. 5; Zechariah iii. 9; Zechariah iv. 2, 3; a'r cyfeiriad a nodwyd genym a roddid ganddo i raddau mawr ar ei sylwadau oddiwrth yr amrywiol destynau hyn. Mae yn wir mai yn bynciol hollol yr ymdrinai braidd bob amser y pryd hyny â'r mater; ac yr ydym yn gweled yn eglur, erbyn hyn, nad oedd wedi addfedu yn gwbl yn ei feddwl ei hunan; ond yr oedd yn ymdeimlo o ddifrif â'i bwysigrwydd, ac, yn raddol, yn gweithio ei ffordd i'r hyn a ddaeth yn hynodrwydd mor amlwg ar ei weinidogaeth yn yr ugain mlynedd diweddaf o'i oes.

Yn nechreu y flwyddyn ganlynol, ar nos Fawrth, Ionawr 12, 1830, yr oedd yn pregethu yn Llanfair, ac yn cychwyn ar daith drachefn trwy Sir Fôn. Aeth trwy yr ynys yn lled fanwl, gan bregethu dair gwaith agos