Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/212

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bob dydd, a bedyddio yn fynych, a gweinyddu Swpper yr Arglwydd ar y Sabbathau, yn Amlwch, a Llangefni, ac mewn rhai manau, megis y Bryndu, yn yr wythnos, a therfynu y cyhoeddiad yn Brynsiencyn, nos Fawrth, Ionawr 26. Cafodd lawer o hyfrydwch i'w feddwl ei hunan yn ystod y daith hon; a dywedai nad oedd yn gwybod am bobl yn un man yn eu gosod eu hunain mewn gwell osgo i'r efengyl eu trin na phobl Sir Fôn. "Elias," meddai, "a Roberts, Amlwch, a'u gwnaeth nhw fel yna." Ond y mae yn dra thebyg, pe gofynasid profiad llawer pregethwr yn Sir Fôn, y buasai yn barod i ddywedyd mai pan y byddai efe yn dyfod trwy y wlad y byddai agwedd felly yn benaf yn hynodi y gwrandawwyr; ac y byddai lliaws o honynt yn ddigon difraw yn gwrandaw ar eu pregethwyr cartrefol. Ar nos Iau, Chwefror 4, 1830, yr oedd yn Mangor, ar ei ffordd i Liverpool, ac yn pregethu gyda gallu a dylanwad mawr, oddiar Zechariah iii. 9. Bu y pryd hyn am ddau Sabbath yn Liverpool. Yr oedd yn pregethu boreu Sabbath, Chwefror 7, yn Pall Mall oddiar Zechariah iii. 9, ac yn bedyddio ar ol y bregeth; am ddau ar y gloch, yr oedd yn Rose Place, yn pregethu oddiar 2 Cor. v. 1; ac yn yr hwyr yn Bedford Street, oddiar Luc xxiii. 34, ac yn gweinyddu Swpper yr Arglwydd yn y diwedd. Nos Fawrth, yr oedd drachefn yn Pall Mall oddiar Zech. iv. 9. Nos Fercher yr oedd yn Bedford Street, oddiar Ioan iii, 3, a Mr. Elias yn dechreu yr oedfa. Nos Wener yr oedd yn Rose Place, oddiar Eph. iv. 15, a Mr. Elias drachefn yn dechreu yr oedfa. Y Sabboth y 14eg, yr oedd yn Bedford Street y boreu, oddiar 2 Chron. vi. 18; y prydnawn yn Rose Place ar yr un testyn; a'r hwyr yn Pall Mall oddiar Psalm xv. 1, ac yn gweinyddu Swpper yr Arglwydd yn y diwedd. Cafwyd cyfarfod hynod iawn yn Pall Mall y noswaith hono yn enwedig yn y cymun. Yr oedd y nos Fawrth canlynol drachefn yn Pall Mall, oddiar 2 Cor. vi. 2. Aeth at y nos Fercher i Runcorn, lle y pregethodd oddiar Caniad Solomon ii. 14.

Y Sabboth canlynol, Chwefror 21, yr oedd yn Manchester, lle y pregethai yn y boreu, oddiar 2 Cor. v. 1; yn y prydnawn, oddiar Ioan iii. 3; a'r hwyr, oddiar Luc xxiii. 34. Yr oedd gyda hyny yn gweinyddu yr ordinhadau Bedydd a Swpper yr Arglwydd, yn yr oedfa yr hwyr.

Wedi pregethu yn Manchester dair noswaith drachefn, yn ystod yr wythnos, aeth at y Sabbath canlynol i Gaerlleon, lle y pregethodd dair