Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/213

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwaith; a thrachefn, nos Lun, Mawrth 1; ac oddiyno i Laneurgain, nos Fawrth, ac oddiyno i Gymdeithasfa y Wyddgrug, Mawrth 3, 4, lle y pregethodd am ddau ar y gloch, o flaen Mr. Michael Roberts, oddiar Diar. i. 24. Yr oedd Mr. Rees a Mr. Elias yn pregethu am ddeg. Y nos gyntaf, yn y Gymmanfa hon, ar ol Mr. John Hughes, Sir Drefaldwyn, y cafodd Mr. Lloyd, Beaumaris, y tro hynod, a gofir byth gan y rhai oeddent yn bresennol, ar y testyn, "A'r Sabbath oedd y diwrnod hwnw." Ni a glywsom Mr. Michael Roberts, Mr. Rees, Mr. John Jones, Mr. David Jones (efe oedd yn dechreu yr oedfa), Mr. William Morris, Rhuddlan, ac eraill, yn son am y tro hwn, ac yn sicrhau, yn ol eu teimladau hwy, ei fod yn un o'r cyfarfodydd rhyfeddaf y buasent ynddo erioed. Yr oedd Mr. John Jones yn dywedyd ei fod ef wedi myned o'r oedfa i'w letty, sef, os ydym yn cofio yn iawn, Cefn y Gader, tŷ tad y diweddar Mr. Thomas Jones (Glan Alun), a'r lle hefyd yr oedd Mr. Lloyd ac ereill yn llettŷa. Yr oedd Mr. John Jones wedi cyrhaedd y tŷ ac yn eistedd wrth y tân, ac yn meddwl yn ddifrifol am y bregeth hynod a glywsai, a'r effeithiau rhyfedd a deimlid ganddo ei hunan a'r gynnulleidfa oll wrth ei gwrandaw, pan y daeth Mr. Lloyd i mewn. "Yr oeddwn," meddai, "ar ei dderbyn megis angel Duw, pan y gwelwn ef yn neidio oddiwrth y llawr fel bachgen direidus ac yn gwaeddi yn chwareus—Curo Llanllyfni fawr—Curo Llanllyfni fawr.'" Nid oes eisiau dywedyd wrth y rhai a adwaenent Mr. Lloyd nad oedd hyn oll ond digrifwch naturiol diniweidrwydd perffaith, heb un radd o ymffrost gwag a hunanol ynddo. Aeth Mr. John Jones at yr hwyr i Gaerwys ar ol yr oedfa ddau ar y gloch, ac i Lanrwst, nos drannoeth; a chartref erbyn y Sabbath. Ni bu allan o Sir Gaernarfon ar ol hyn, oddieithr un nos Sadwrn, Mai 1, yn y Gaerwen, a'r Sul canlynol yn Brynsiencyn, y Dwyran, a Niwbwrch, hyd Gymdeithasfa y Bala, Mehefin 16, 17, lle y pregethodd y noswaith gyntaf, oddiar 2 Cor. vi. 2. Aeth oddiyno i'r Cyfarfod yn Ngherrig-y-Druidion; ac yn mlaen i'r Rhydlydan, a Chapel Curig; ac i Bentir, y Felin Hen, a'r Carneddi y Sabbath; a'r wythnos ganlynol i Amlwch, lle yr oedd Cymdeithasfa Flynyddol Sir Fôn yn cael ei chynnal, lle y pregethodd gyda nerth a dylanwad mawr, oddiar Dan. ix. 17; a thrachefn, yn yr hwyr, oddiar Malachi iv. 2. Yr oedd tua y pryd hwn yn ei boblogrwydd uchaf fel pregethwr, a braidd bob oedfa yn cael ei deimlo, gan ei holl wrandawwyr, megis un yn llefaru wrthynt yn enw