Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/214

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Crist, ac yn amlwg dan amddiffyniad arbenig ganddo. Y mae genym gof neillduol am Sabbath iddo yn Mangor, Medi 5, y flwyddyn hon (1830), y Sul o flaen Cymdeithasfa Caernarfon. Yr oedd Mr. David Howell, Abertawy, a Mr. William Havard, yn cyfarfod yno â'u gilydd y boreu hwnw, ac yn cyd—bregethu. Dyma, os nad ydym yn camgymmeryd, y tro cyntaf i Mr. Howell fod yn Sir Gaernarfon, ac fe gafwyd cyfarfod tra chysurus yn y boreu. Ond at y prydnawn a'r hwyr yr oedd pawb yn edrych, am fod Mr. John Jones i'w ddysgwyl. Ei destyn am ddau ar y gloch, ydoedd, 1 Cor. xv. 24. "Yna y bydd y diwedd, wedi y rhoddo efe y deyrnas i Dduw a'r Tad; wedi iddo ddileu pob pendefigaeth, a phob awdurdod a nerth." Yr oedd rhyw beth yn y bregeth hono ag oedd yn buddugoliaethu ar bawb. Yr ydym yn gweled yn awr nad oedd dim rhagoriaeth neillduol ynddi fel cyfansoddiad— ond i'r gwrthwyneb, yr oedd yn gwbl ar yr hen gynllun, gyda lliaws o raniadau ac îs—raniadau, a rhaniadau drachefn o dan y rhai hyny. Y prif benau oeddent:—1. "Fod y Messiah yn frenhin. 2. Y weithred frenhinol neillduol o'i eiddo a nodir yn y geiriau: 'dileu pob pendefigaeth, a phob awdurdod a nerth.' 3. Y weithred olaf o'i eiddo fel brenhin y cyfeirir ati: rhoddi i fynu y deyrnas i Dduw a'r Tad.' 4. Mai pan y cymmero hyn le y bydd y diwedd." Dyna y rhaniadau, ac, fe welir nad ydynt ond tra chyffredin : ond yr oedd rhyw beth aruchel a thra effeithiol yn y bregeth, yn enwedig yn y darluniad a roddid ganddo o gydnabyddiaeth yr holl greadigaeth o frenhiniaeth Crist, gan redeg dros y prif gyfeiriadau ysgrythyrol at hyny. Ac yr oedd yno gannoedd o galonau, cyn diwedd y cyfarfod, yn llawenychu yn eu Brenhin. Yn niwedd yr oedfa hon y bedyddiwyd ganddo eir brawd ieuengaf, Josiah Thomas.

Am chwech ar y gloch, yr un dydd, yr oedd yn pregethu oddiar 1 Ioan i. 3. Yr oedd y bregeth hon, fel cyfansoddiad, o nodwedd uwch ac yn dwyn mwy o ddelw ei gyfansoddiadau diweddarach, er nad yn hollol rydd oddiwrth y lliaws penau oedd ganddo ef, fel y nifer amlaf o bregethwyr, y dyddiau hyny. Yr ydym yn gobeithio fod cynnwys y bregeth hon yn rhywle, yn y pentwr ysgrifeniadau a adawodd ar ei ol, ac yr ymddengys yn mhlith ei bregethau ereill, pan y cyhoeddir hwynt. Os deallwn yn amgen, rhoddwn grynodeb o honi yn ein Hattodiad.

Ar nos Wener, Medi 24, yr oedd yn Ffestiniog, yn dechreu taith am ryw naw niwrnod trwy ran o Sir Feirionydd, gan derfynu yn Nol