Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/215

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yddelen, Hydref 1. Nos Sadwrn, Hydref 16, yr oedd yn Nghapel Curig, yn dechreu taith trwy Siroedd Dinbych a Fflint, ac yn terfynu drachefn yn Nolyddelen, nos Fawrth, Tachwedd 9. Dichon nad annyddorol gan y cyfeillion yn y lleoedd yr oedd ynddynt ar y Sabbathau, yn y daith hon, fyddai i ni gyfeirio yn uniongyrchol atynt, ac at y testynau y pregethai arnynt ynddynt. Yr oedd y Sabbath, Hydref 17, yn Llanrwst y boreu, 1 Ioan i. 3; yn Pwllterfyn, yn y prydnawn, Rhuf. viii. 18; ac yn Llansantffraid yr hwyr, 1 Pedr ii. 4. Hydref 24, yr oedd yn y Groes, y boreu, Heb. ix. 12; yn Ninbych yn y prydnawn, 1 Ioan i. 3; a thrachefn, yn yr hwyr, Rhuf. iii. 31. Hydref 31, yr oedd yn Nghaerwys, y boreu, Heb. ix. 12; yn Mhenyfelin, yn y prydnawn, 1 Ioan i. 3; ac yn Nhreffynnon, yn yr hwyr, Rhuf. iii. 31. Tachwedd 7, yr oedd yn Rhosllanerchrugog, y boreu, Heb. ix. 12; Pontcysyllte, y prydnawn, 1 Ioan i. 3; a Llangollen, yr hwyr, Rhuf. iii. 31. Yr oedd y Parch. Griffith Hughes, Edeyrn, gydag ef, fel cyfaill iddo, ar y daith hon, ac y mae wedi anfon i ni yr adgofion canlynol o'i eiddo am dani:—

"Yn niwedd y flwyddyn 1830, aethum gyda John Jones i Siroedd Dinbych a Fflint, a dyma y daith gyntaf oll i mi. Yr oeddwn yn lled sâl ar hyd yr amser braidd, a hynod mor dirion a theimladol wrthyf fyddai yn wastad. Nid llawer o bregethau fyddai ganddo mewn ymarfer pan ar daith; ond gofalai am i'r nifer fyddai fod yn orphenol, yn gystal ag o duedd fuddiol. Byddai yn pregethu yn fynych ar Heb. ix. 12, Nid chwaith trwy waed geifr a lloi, eithr trwy ei waed ei hun, a aeth unwaith i mewn i'r cyssegr, gan gael i ni dragywyddol ryddhad.' Pan fyddai fy meddwl wedi syrthio, a'r llais wedi darfod, gofynwn am bregeth Y CYSSEGR, ac ni chai hyny fyned yn ofer: canys byddai yn sicr o roddi adnewyddiad i'm hysbryd, yr hyn hefyd a effeithiai lawer er iechyd i'm corph.

Yn Llangwm, pan yn dychwelyd adref, y clywais bregeth Y CYSSEGR yn fwyaf grymus o gwbl. Yr oedd yno lawer yn mwynhau y rhyddhad, ac mewn hwyl nefolaidd yn moliannu yr Arglwydd am hyny. Yr oedd yr hen frawd, y Parchedig John Roberts, wedi dyfod ddeuddeng milldir i'n cyfarfod y boreu hwnw, ac wedi ein harwain ar hyd y dydd; ond talodd y noswaith hono yn dda iawn iddo am hyny. Hawdd i mi gofiɔ y dagrau gloewon yn rhedeg ar hyd ei drwyn mawr; ac wedi dyfod i'r tŷ, methai braidd a siarad gair gan ei deimladau. Toc, dywedai, Yr