Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/216

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd y bobl yn gofyn i mi, pwy oedd y dyn cyntaf? Dywedais innau, mai Adda oedd y dyn cyntaf' (canys nid oedd yno són am neb ond John Jones). A difyr fyddai gan yr hen gyfaill adrodd hyn am yr hen weinidog o Langwm."

Ar ol dychwelyd adref o'r daith hon, cadwodd ei hun yn gyfan-gwbl i Sir Gaernarfon, gan lafurio ynddi yn gyson ar y Sabbathau, ac yn aml yma a thraw yn yr wythnos, a dilyn yn ffyddlawn y Cyfarfod Misol, hyd Gorphenaf 27, 1831, pryd yr oedd yn y Penrhyn y boreu, ac yn y Dyffryn yr hwyr, yn cychwyn ar daith i'r Deheudir, trwy ranau o Siroedd Aberteifi, Penfro, a Chaerfyrddin, tua Chymmanfa Llangeitho, yr hon oedd i'w chynnal y Mercher a'r Iau, Awst 10, 11. Yr oedd yn pregethu y pryd hyny yn Llangeitho, am ddeg ar y gloch, oddiar Heb. ix. 12, o flaen Mr. Evans, Llwynffortun. Yr ydoedd yn un o'i hwyliau goreu y tro hwnw, a'r gynnulleidfa wrth ei bodd yn mwynhau ei weinidogaeth. Aeth i Dregaron at yr hwyr, dydd y Gymmanfa, a rhyngddo a Machynlleth at nos Sabbath; Dolgelleu, nos Lun; Trawsfynydd, boreu drannoeth; a chartref, nos Fawrth, Awst 16eg. Yr 21 a'r 22 o'r Medi canlynol, yr oedd yn Nghymdeithasfa Beaumaris, ac yn pregethu oddiar 2 Cor. ii. 16, gyda nerth ac effeithioldeb mawr. Hydref 5ed, a'r 6ed, yr oedd yn Nghymdeithasfa Dolgellau, ac yn pregethu yno ddwywaith-noswaith yn mlaen, oddiar 2 Cor. ii. 16, a thrachefn drannoeth, ar Heb. xii. 4. Rhagfyr 22ain, 23ain, o'r flwyddyn hon, yr oedd yn Nghymdeithasfa Llanrwst, ac yn pregethu ar Heb. ix. 22, ac oddiyno, tua'r Bala, at y Sabbath, yr hwn oedd hefyd yn ddydd Nadolig y flwyddyn hono. Wedi rhoddi deuddydd yn nghymmydogaethau y Bala, aeth drosodd i Lanwyddyn, ac yna Llanrhaiadr, Llanfyllin, Pont Robert, tua Llanfair caereinion, ddydd Iau a dydd Gwener, Rhagfyr 29, 30, lle yr oedd Cyfarfod Misol yn cael ei gynnal. Pregethodd yno nos Iau, ar Job xxiii. 2, 3; a boreu drannoeth, ar Heb. ix. 22. Aeth oddiyno i Meifod y noswaith hono; i Lansantffraid boreu drannoeth; ac oddiyno i'r Amwythig, at y Sabbath. Daeth yn ol i'r Trallwm, erbyn nos Lun; ac yna rhagddo trwy y Sir, hyd nes gorphen yn Mallwyd, nos Fawrth, Ionawr 10; ac wedi pregethu yn Llanfachreth a Thrawsfynydd ddydd Mercher, cyrhaeddodd ei gartref, nos Iau, Ionawr 12, 1832.

Yr oedd y Parch. Griffith Hughes, Edeyrn, yn gyfaill iddo ar y daith hon hefyd, ac y mae wedi anfon i ni yr Adgofion canlynol am-