Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/217

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dani:—"Aethum drachefn gyda'r hen gyfaill i Sir Drefaldwyn yn niwedd y flwyddyn 1831, a dechreu 1832. Yr oeddem yn y Bala ar ddydd y Nadolig; ac yn yr Amwythig ar ddydd Calan. Yr oedd y gynnulleidfa yn yr Amwythig yn cael ei gwneyd i fynu, gan mwyaf, o rai mewn gwasanaeth, y rhai oeddent dan angenrheidrwydd i fod i mewn yn eu tai tua hanner awr wedi wyth, a rhai o honynt yn gynt na hyny. Aethant allan yn ddistaw pan y daeth eu hamser i ben; ond yr oedd John Jones yn dal i bregethu heb sylwi ar ddim o'i amgylch, fel, erbyn darfod y bregeth, yr oedd y capel wedi myned braidd yn wag. Yn Llanuwchllyn hefyd fe ddygwyddodd tro go hynod. Yr oedd y capel yn orlawn, a'r tywydd yn llaith a distaw, fel nad oedd digon o awyr i'r canwyllau gynneu. Diffoddodd y rhan fwyaf o honynt, a thrwy anhawsder mawr y gellais innau ddal canwyllau y pulpud yn oleu. Ond yr oedd yr hen frawd yn ymddangos fel heb sylwi ar hyn oll, ac yn ei gyru yn mlaen heb ofalu am ddim ond ei bregeth, gan geisio gyru hono i le tywyllach na'r capel. Gall hyn ddangos mor gwbl y byddai ei feddwl yn cael ei ddwyn gan, a'i sefydlu ar, yr hyn a bregethai, ac felly pa fodd y rhagorodd fwy mewn pregethu nag mewn un ran arall o wasanaeth y cyssegr. Ond, tra y mae y ffeithiau a nodwyd yn dangos difrifwch ac ymröad ei feddwl gyda'r gwaith mawr, mi a allwn hefyd adrodd aml chwedl ddibwys a ddengys y medrai John Jones fwynhau digrifwch diniwed, ac y gorchfygid ef yn hollol, weithiau, gan bethau bychain felly, yn enwedig os deuent arno yn annysgwyliadwy. Ar y daith hon, ni a gawsom Gyfarfod Misol yn Llanfair caereinion; ac yr oedd y Parch. John Hughes, Pont Robert, yn dechreu yr oedfa; ac yna eisteddodd yn y pulpud, a chôb lwyd fawr am dano, yn llogellau eang yr hon yr oedd llawer o lyfrau. Wedi darfod y pregethu, dechreuodd yr hen batriarch ymysgwyd i fyned i lawr o'n blaen ni: ond, yn anffodus, fe arosodd godreu yr hen gôb laes y tu cefn i ddrws y pulpud, ac, wrth i'r hen frawd fyned i lawr y grisiau, fe gauodd y ddôr, a godreu y gôb a'r llyfrau yn glynu yno, fel pe buasent wedi hoffi eu lle, neu am dalu gwarogaeth i'r gwyr dieithr. Ac yno yr oedd John Hughes wedi ei ddal felly yn grogedig rhwng y pulpud a'r llawr, fel nad oedd ganddo ond ysgwyd ei freichiau a gwaeddi, 'Pa be' ydy' hyn?' Bellach byddai yn haws i hen gydnabod John Jones ddychymygu am ei deimladau nag a fyddai i mi eu darlunio, yn enwedig wedi cynnifer o flynyddau."