Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/218

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Darfu i ryw bethau bychain dibwys a basiodd rhyngom ni ein dau, yn hollol ddifwriad, pan ar y daith hon, arwain i bethau ag y dylid talu ystyriaeth iddynt. Yr oedd cwpanaid o gwrw yn cael ei hystyried y pryd hyny yn un o brif anghenrheidiau pregethwr, a glasiad o wirod yn un o'i brif gysuron. Yr oedd John Jones bob amser yn un o'r rhai mwyaf cymhedrol, a hyny cyn bod sôn am Gymdeithas Dirwest na Chymedroldeb ychwaith yn ein gwlad ni. Wedi cael cynnyg ddwy waith neu dair, yn nechreu y daith, ar yr hyn oedd mor respectable, ac i minau bob tro wrthod cymmeryd dim o hono, gofynodd yr hen gyfaill i mi, Paham yr ydych yn peidio cymmeryd glasiad? Tybed na wnai o les i ni ar y tywydd oer yma?' Atebais innau, ei fod yn gwneuthur llawer mwy o ddrwg nag o ddaioni, a dygais ger ei fron rai ffeithiau anwadadwy oeddent yn profi hyny. Wedi llai na dau fynyd o ystyriaeth, dywedodd yntau, Chy, yn wir, yr ydwyf fi yn meddwl yr un fath a chwi erbyn i mi gonsidro, ac nid yfaf innau ddim o hono eto.' Gellir gweled yn hyn mor hawdd ydyw i ddyn heb fod erioed dan lywodraeth blysiau ymattal: ac hefyd mor barod ydyw y cyfryw i wneyd pob peth a allo er bod yn lles i ereill. Nid oedd raid iddo ef 'ymgynghori â chig a gwaed' yn hyn, canys nid oeddent yn perthyn i'w Gabinet ef. Daethom trwy y daith yn gysurus ac yn iach, er fod y tywydd gan amlaf yn oer iawn: a chefais dystiolaethau yn mhen blynyddoedd wedi hyny fod y daith hono wedi ei bendithio er gwneud daioni mawr i bechaduriaid."

Erbyn i ni ddyfod adref o Sir Drefaldwyn, yr oedd y Diwygiad, yr hwn oedd wedi dechreu ddiwedd y flwyddyn o'r blaen, yn cerdded rhagddo yn rymus yn Sir Gaernarfon. Yr oedd John Jones yn arfer pregethu pob pwnc ac athrawiaeth yn ei wir berthynas â phechadur, ac ambell un o'r rhai a fyddent yn gofalu mwy am yr athrawiaeth nag am yr ymarferiad o grefydd yn ei led ammeu. Yna, wedi i'r Diwygiad ddyfod, yr oedd pob pregethwr, braidd, fel ar amserau o adfywiad cyn ac wedi hyny, yn ceisio rhoddi cyfeiriad mwy uniongyrchol i'w weinidogaeth at gydwybodau y bobl; ond yr oedd yr arwr ei hun yn cadw y blaen ar bawb. Dywedai yn hyf yn erbyn ymyfed a diotta, pryd yr oeddwn i yn ystyried fy hunan yn rhy ieuanc i'w gefnogi ef, oddieithr yn fy nghymmydogaeth fy hun, a rhai brodyr ereill yn rhy ofnus i wneyd, er eu bod yn hollol ddiargyhoedd yn yr hyn yr ymosodai i'w erbyn. Eto dal ati yr oedd John Jones, nid yn unig i ddywedyd yn erbyn llygred-