Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/219

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

igaethau ac i gymhell i rinweddau, megis ag y gwneid i ryw raddau gan bregethwyr yn gyffredin, ond yr oedd efe, gyda hyny, yn cymmeryd trafferth i ddangos paham y dylai deiliaid llywodraeth foesol y Duw mawr wneuthur pob peth a gymhellir ganddo arnynt fel y cyfryw."

"Rhoddodd John Jones ryw arbenigrwydd mawr ar gyfrifoldeb dyn i'w Greawdwr, cadwedigaeth pechaduriaid yn gwbl o ras, Mawredd yr Iawn, yr hwn yw Person Mab Duw, a chyfaddasrwydd pob moddion a ordeiniodd yr Arglwydd i ddyn i ymarfer ag ef, er dyfod yn etifedd iachawdwriaeth. Ac, oddiar yr afael ddofn oedd gan y gwirioneddau mawrion hyn yn ei feddwl, y cymhellai bechaduriaid gyda'r fath ddifrifwch i ffoi rhag y llid a fydd,' ac i gymmeryd gafael yn y bywyd tragywyddol.' Gweithiodd ei weinidogaeth nerthol ef fath o newidiad yn nhôn y pregethu yn gyffredinol yn ein gwlad ni, nid yn unig yn mysg y bobl ieuainc, eithr hefyd, i raddau, yn yr hen weinidogion. Daeth amryw o honynt hwythau yn fwy cymhedrol yn eu syniadau, ac yn fwy ymarferol yn eu pregethau. Nid ydym yn tybied fod neb wedi newid o ran barn, na bod dim eisiau gwneyd hyny; eto daeth rhyw dôn fwy efengylaidd ar y weinidogaeth yn gyffredin, a diammeu i hyny wneuthur llawer iawn o ddaioni."

Mae y dyfyniadau diweddaf o lythyr Mr. Griffith Hughes yn cyfeirio at gwestiynau ag sydd yn gofyn sylw helaeth mewn Cofiant i Mr. John Jones, ac yr ydym yn bwriadu rhoddi iddynt yn fuan y sylw hwnw; ond nis gallwn ymattal yma rhag dwyn ein tystiolaeth, oddiar ein côf pendant ein hunain, i'r arbenigrwydd y cyfeirir ato oedd ar ei weinidogaeth yn yr amser a nodir uchod. Yr ydym yn cofio yn dda, er esiampl, am dano un Sabbath, Mawrth 4, 1832, yn pregethu yn Mangor, y boreu, ar Heb. ix. 22; yn y Graig, y prydnawn, ar Dan. ix. 9; ac yn Mangor, drachefn yn yr hwyr, ar Job xxiii. 3, 4. Yr oedd y pregethau hyn yn ymddangos i ni ar y pryd i fesur mawr fel amrywiol ranau yr un cyfansoddiad. Yn y bregeth y boreu yr oedd yn olrhain gyda manylder mawr yr angenrheidrwydd am iawn er maddeuant, gan osod i lawr sylfaeni yr angenrheidrwydd hwnw yn ddwfn yn natur y llywodraethwr; natur y troseddwr; natur y gyfraith; a natur y trosedd. Yr oeddem ni, ar y pryd, yn ceisio cymmeryd rhan neillduol gyda Chymdeithas Cymmedroldeb yn Mangor; ac nis gallwn byth annghofio mor llawen oeddem o'i sylwadau ar ddrwg pechod i gymdeithas gyffredin, ac yn enwedig wrth ei glywed yn tynu ei eng-