Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/22

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

atom ryw noswaith, ni welais neb erioed yn dyfod yn fwy gostyngedig, nac yn ymddangos yn haws i'w drin. Eisteddodd ar y fainc, a rhoes ei law dan ei ben. Pan ddechreuwyd gofyn ychydig iddo, cododd ei ben i fynu, ac adroddodd ei hanes yn rhydd a phwyllog, ac eto yn amlwg mewn teimlad dwys, canys yr oedd y dagrau yn treiglo yn lli dros ei ruddiau. Yr oedd yn traethu ei brofiad mor syml ac effeithiol, ac wedi ein siomi gymaint yr ochr oreu, fel yr oedd pawb yn y lle wedi myned i wylo." Dyma yr agwedd oedd arno pan ymunodd â'r eglwys: ac ni chollodd, er blynyddoedd o broffes, a'r lle uchel a ennillodd yn meddyliau ei gyfeillion, a'i ddyrchafiad buan i swydd, y meddwl gostyngedig a ddangosid ganddo fel hyn ar y cyntaf. Yn mhen ychydig fisoedd wedi iddo ddyfod i'r eglwys fe'i dewiswyd ef yn ddiacon neu yn flaenor. Ymaflodd yn ngorchwylion ei swydd o ddifrif, a pharhäodd yn ffyddlawn ynddi hyd ddiwedd ei oes. Yr oedd ganddo ddawn naturiol a rhwydd i draethu ei feddwl; yr un pryd llefarai yn bwyllog a grymus, fel un yn teimlo yn ddwys bwys gwirioneddau yr efengyl, ac yn gofalu yn neillduol am y geiriau a arferid ganddo i siarad am danynt. Pan y cyfodai i fynu i lefaru yn y cyfarfodydd eglwysig, cynhyrfai pawb i wrandaw yn astud a manwl arno, fel rhai yn ofni colli cymaint ag un gair a ddywedai.

Yr oedd, yn neillduol, yn ŵr mawr mewn gweddi. Byddai yn wastadol ger bron gorseddfainc y gras megis un à neges ganddo. Yr oedd priodoldeb ei iaith, gweddeidd–dra ei ddull a'i lais, ac yn enwedig eangder ac eglurder ei olygiadau ar wirioneddau mawrion yr efengyl, a'i deimlad dwfn o werth ei bendithion iddo ei hunan ac i'w gyd–ddynion, yn peri fod rhyw effeithiau annghyffredinol yn fynych yn dilyn ei weddïau yn deuluaidd ac yn gynulleidfäol. Digon i sicrhau cynnulliad llïosog i gyfarfod gweddio, mewn rhyw dŷ annedd yn y gymmydogaeth, fyddai deall ei fod ef yn debyg o fod yno.

Ysgrifenodd ychydig draethodau ar destynau crefyddol. Nid argraffwyd yr un o honynt erioed, ac y maent yn awr, ac er ys blynyddoedd, wedi myned ar ddifancoll hollol. Yr oedd ei fab John, gwrthddrych ein Cofiant presennol, wedi eu darllen, ac yr oedd yn eu hystyried yn arddangos synwyr cryf a llawer o ddwysder meddwl. Cyfansoddodd hefyd rai pennillion. Pan yn myned un tro, ar ddechreu blwyddyn, gydag ychydig frodyr i gwr isaf y plwyfi gadw cyfarfod gweddïo, arosodd am ychydig wrtho ei hun cyn myned i'r tŷ, a chyfansoddodd