Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/220

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

reifftiau oddiwrth annghymmedroldeb, ac yn rhoddi yr ergydion trymaf i feddwdod ac i'w holl achlysuron. Yr oedd yr un peth, yr ydym yn cofio yn dda, yn hynodi ei bregethau yn y prydnawn a'r hwyr. Clywsom ef amrywiol weithiau y flwyddyn hono, ac yr oedd ei ysbryd bob tro yn llawn o'r un eiddigedd yn erbyn pechod, a chyfodai ei lef yn nerthol yn erbyn llygredigaethau yr oes.

Ar nos Sadwrn, Mawrth 10, 1832, yr ydoedd yn Llanfair, Môn, yn cychwyn ar daith drachefn drwy yr ynys. Yr ydoedd yn Brynsiencyn, y Dwyran, a Niwbwrch y Sabbath; yn y Gaerwen, y Talwrn, a Llangefni, ddydd Llun. Yr oedd Cyfarfod Misol yn Llangefni, y Llun hwnw a'r Mawrth canlynol. Testyn Mr. John Jones, y nos Lun, ydoedd Job xxiii. 3, 4. Am ddeg ar y gloch, drannoeth, yr oedd yn pregethu ar Habacuc iii. 9. Dyma, o bosibl, un o'r cyfarfodydd hynotaf a gafodd efe erioed. Clywsom o bryd i bryd, gan amryw o'r rhai oeddent yn bresennol, sôn am y tro; a'u tystiolaeth unfrydol ydoedd, na buant odid erioed mewn lle cyffelyb. Yr oedd yr effeithiau ar yr holl wrandawwyr yn annysgrifiadwy. Nid oedd yno braidd gymmaint ag un nad oedd wedi ei orchfygu yn hollol. Yr oedd Mr. Elias yn wylo dros y capel; a Mr. Cadwaladr Williams, wedi myned yn ddrylliau. Nid oedd calon yn neb i bregethu yn yr oedfäon canlynol. Fe ddiangodd rhai, os nad y cwbl, o'r rhai oeddent wedi eu henwi i hyny, adref; a rhyw rai o'r gymmydogaeth a gafwyd i aros yno hyd ddiwedd y dydd. Aeth Mr. John Jones oddiyno i Bethel at yr hwyr; a rhagddo trwy Aberffraw, Gwalchmai, Bodedern, Caergybi, Amlwch, Llanerchymedd, Beaumaris, gan bregethu dair gwaith, gan amlaf bob dydd, a gorphen ei daith yn Llandegfan, ar foreu Llun, Mawrth 26. Yr ydym yn cofio fod lliaws wedi myned o Fangor i Beaumaris i'w wrando y Sabbath, Mawrth 25, lle y cawsant un o bregethau "llwon y llwythau" —y bregeth oedd ganddo yn Llangefni, yn y Cyfarfod Misol,—gyda nerth a dylanwad mawr. Yr oedd ganddo bedair bregethau ar y testyn hwnw ac yr oedd pob un o honynt yn ddieithriad, can nad pa le bynnag y byddai, yn gwneuthur grymusderau mawrion. Yn Nghymdeithasfa y Bala y flwyddyn hon, am ddeg ar y gloch, Mehefin 20, yr oedd efe a Mr. Evans, Llwynffortun, wedi eu henwi i bregethu, a Mr. Ebenezer Richard a Mr. Elias i bregethu am ddau yn y prydOnd gan i Mr. Elias, y boreu hwnw, gael ei daflu allan o'r cerbyd, a'i archolli mor drwm fel na allodd bregethu am amryw fisoedd,