Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/221

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr oedd ei le ef yn y prydnawn yn golygu bod yn wag. Carodd Mr. John Jones y tro hwnw y fath hwyl, ac yr oedd y fath ddylanwad ar y gynnulleidfa, fel y gommeddodd Mr. Evans bregethu ar ei ol, a gollyngwyd y bobl ymaith wedi pregeth Mr. John Jones yn unig. Pregethodd Mr. Evans yn y prydnawn, ar ol Mr. Richard. Testyn. Mr. John Jones, y tro hwn, oedd Jer. xxxi. 3. Yr wythnos ganlynol, ddydd Iau a dydd Gwener, Mehefin 28, 29, yr oedd Cymdeithasfa Sir Fôn, yn cael ei chynnal yn Llanerchymedd, ac yr oedd Mr. John Jones yn pregethu yno, am ddau ar y gloch, ar ol y diweddar Mr. Thomas Elias, Llangammarch, gyda nerth mawr, ar Esaiah xxvi. 11. Yr oedd yr haint dinystriol, y Cholera, yr hwn a ymddangosasai gyntaf yn y deyrnas hon, yn Sunderland, yn Tachwedd, 1831, y pryd hyny wedi gwneyd ei ymweliad cyntaf â Chymru, ac wedi lladd llaweroedd mewn ychydig amser, yn enwedig yn Ninbych; ac yr oedd arwyddion ei fod yn nesau, fel y gwnaeth yn fuan, i Siroedd Môn ac Arfon. Yr oedd y bregeth hono, yn Nghymdeithasfa Llanerchymedd, yn amlwg wedi ei bwriadu fel rhybudd i'r wlad, yn neillduol yn ngwyneb yr ymweliad barnedigaethol hwnw, ac yn dystiolaeth onest a didderbyn wyneb, ac ar yr un pryd nodedig o deimladol, yn erbyn llygredigaethau arbenig ein cenedl. Yr oedd rhyw nerth anarferol yn y darluniad a roddid ganddo o'r cysylltiad rhwng ymollyngiad i'r fath lygredigaethau a meithriniaeth didduwiaeth ysbryd, yr hyn, yn raddol, a gynnyrchai anffyddiaeth proffesedig: ac yr oedd rhyw ddifrifoldeb hynod yn ei ddull, ac yn ei lais, pan yn rhybuddio ei frodyr yn y weinidogaeth, swyddogion yr eglwysi, athrawon ac athrawesau yr Ysgolion Sabbathol, penau teuluoedd yn gyffredin, a phawb a deimlent dros ac a garent ddaioni eu gwlad, mai yr unig obaith am gadw annuwiaeth ac anffyddiaeth cyhoeddus a digywilydd o blith pobl yn ymarfer mor gyffredin, mewn rhyw wedd, â moddion gras ac âg ordinhadau crefydd, oedd, ymegniad cyffredinol i'w glanhau oddiwrth yr arferion pechadurus, y mae ymroddi iddynt a byw ynddynt yn tueddu yn uniongyrchol ac anocheladwy i feithrin y fath ysbryd. Yr ydym yn credu fod y bregeth hono, er nad oedd yno arwyddion o ryw effeithiau nerthol, wedi bod yn fendithiol i laweroedd. Y mae yn ein meddwl ni, pa fodd bynnag, yn sefyll allan yn bur amlwg, hyd yn nod yn mhlith pregethau Mr. John Jones ei hunan, fel un o'r rhai cyfaddasaf i gyfarfod amgylchiadau neillduol y wlad ar y pryd.