Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/222

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr oedd y flwyddyn hono, 1832, yn flwyddyn hynod ar achos crefydd yn Sir Gaernarfon. Yr oedd diwygiad grymus iawn wedi tori allan yno er y flwyddyn o'r blaen. Yr hyn a fu yn foddion cychwyniad cyntaf y Diwygiad hwnw, oedd pregeth i Mr. Elias, am ddau ar y gloch, yn Nghymdeithasfa Pwllheli, Medi 16, 1831, oddiar Psalm lxviii. 1, "Cyfoded Duw, gwasgarer ei elynion; a ffôed ei gaseion o'i flaen ef." Yr oedd yr holl gynnulleidfa yn teimlo, dan y bregeth hono, fod Duw wedi cyfodi. Yr oedd y fath awdurdod a nerth gyda y gwirionedd, y pryd hwnw, fel nad oedd odid gymmaint ag un, o'r miloedd oeddent yn bresennol, heb ymddangos dan fath o argyhoeddiad fod rhyw beth mwy na dynol yn yr efengyl, ac mai ofer oedd parhau i ymladd yn ei herbyn. Clywsom y diweddar Barchedig Lewis Jones, o'r Bala, yn dywedyd na bu efe erioed yn y fath le, nac erioed dan y fath deimladau, ag yr ydoedd yr oedfa hono. Yr oedd gwir ofn y pregethwr wedi syrthio arno ef. Ennillwyd lliaws mawr, yma a thraw, yn Lleyn ac Eifionydd, i ymroddi i grefydd mewn canlyniad i'r bregeth hono; a dygwyd yr eglwysi, yn lled gyffredinol, i deimlo yn achos y byd annuwiol, ac i ddifrifoldeb a dwysder mewn gweddïau ar i Dduw gyfodi i wneuthur grymmusderau yn achubiaeth pechaduriaid. Ond yn y Bontfechan, yn Llanystumdwy, yn Eifionydd, ar ddydd Jubili yr Ysgolion Sabbothol, Hydref 14, 1831, y torodd y Diwygiad allan gyda grym mawr. Fe ychwanegwyd, mewn ychydig amser, tua hanner cant at rifedi yr eglwys yno. Ond, am rai misoedd, nid oedd un arwydd amlwg fod y teimlad oedd yno yn ymledu i'r cymmydogaethau cyfagos. Cyn diwedd y flwyddyn, pa fodd bynnag, yr oedd y newydd wedi dyfod fod y Cholera wedi ymddangos yn Ngogledd Lloegr, ac wedi lladd cannoedd mewn ychydig ddyddiau, a'i fod yn myned rhagddo yn gyflym trwy y wlad, gan ysgubo dynion yn ddisymwth ac yn ddiarbed i angeu. Fe effeithiodd y newydd hwn er peri rhyw deimlad mwy difrifol mewn crefyddwyr yn gyffredin, ac i ddwyn lliaws o'r rhai ag oeddent o'r blaen yn dra anystyriol a diofal i fesur o bryder ac ystyriaeth yn nghylch eu diwedd. Ond yn nechreu Ionawr, 1882, y torodd y Diwygiad allan yn y Sir yn gyffredinol; ac, yn neillduol, ar y dydd Mercher, Mawrth 21, o'r flwyddyn hono, y diwrnod a bennodasid gan y Llywodraeth i Ympryd a Gweddi, yn achos yr Haint dinystriol oedd yn ymdaenu, gyda'r fath gyflymder, trwy yr holl deyrnas. Yr oedd rhyw ysbryd rhyfedd wedi disgyn ar ddynion. Yr