Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/223

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd nerthoedd y nefoedd yn cael eu teimlo braidd yn gyffredinol trwy yr efengyl, a sain buddugoliaeth a gorfoledd i'w glywed yn Sion agos yn mhob cyfarfod crefyddol. Ychwanegwyd at eglwysi y Methodistiaid Calvinaidd, heb sôn am enwadau ereill, tua dwy fil o aelodau o'r newydd, yn Sir Gaernarfon yn unig; ac yr oedd llwyddiant mawr, os nad i'r un graddau, yn y Siroedd ereill hefyd. Yr oedd Mr. John Jones ei hunan wedi cyfranogi yn helaeth iawn o ysbryd yr adfywiad grymus hwnw : ac nid oes un lle i ammheuaeth nad efe a anrhydeddwyd yn benaf, os nad i'w ddechreu, eto i fod yn offeryn ei gynnydd yn y wlad. Ac fe fyddai wrth fodd ei galon, yn gweled “rhai ar ddarfod am danynt" yn gofyn "y ffordd i Sion;" ac ymddangosai fel un yn teimlo yn nodedig o siomedig os byddai un Sabbath, un bregeth yn wir, yn myned heibio heb iddo gael rhyw arwyddion boddlonol iddo ei hunan fod diben mawr gweinidogaeth yr efengyl i ryw fesur yn cael ei ateb trwyddo, a phechaduriaid yn cael eu hachub. Yr oedd ei lafur y flwyddyn hon, yn ei Sir ei hunan ac mewn Siroedd ereill, yn ddiarbed. Pan gartref, byddai mewn rhyw le neu gilydd braidd bob nos trwy yr wythnos, yn pregethu ac yn cadw cyfarfodydd eglwysig, neu yn areithio yn Nghyfarfodydd Cymdeithas Cymmedroldeb, ac â'i holl enaid yn ymroddi i droi pechaduriaid o gyfeiliorni eu ffyrdd, cadw eneidiau rhag angeu, a chuddio lliaws o bechodau. Ac yr oedd y nefoedd yn amlwg yn foddlawn i'w lafur. Anrhydeddwyd ef â llwyddiant mawr.